Facebook Pixel
Skip to content

Helpwch lunio dyfodol adeiladu ar Fwrdd Ymddiriedolwyr CITB

Mae Bwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu (CITB) yn chwilio am dri ymddiriedolwr newydd i ymuno â’i Fwrdd o swyddogion anweithredol.

Fel elusen a Chorff Cyhoeddus Anadrannol, mae CITB wedi cefnogi’r sector adeiladu ers dros 50 mlynedd, gan helpu i gadw gweithwyr yn ddiogel ar y safle, cefnogi hyfforddiant o ansawdd uchel a rhoi hwb i bobl ifanc yn eu gyrfa. Mae CITB yn codi arian drwy lefi gyflogwyr ac yn gweithio’n agos â chyflogwyr a’r Llywodraeth i sicrhau bod anghenion sgiliau adeiladu cenedlaethol ledled Prydain Fawr yn cael eu diwallu.

Bydd y rôl wirfoddol o Ymddiriedolwr yn rhoi cyfle i helpu llunio dyfodol adeiladu, wrth i’r diwydiant weithio i lenwi’r bwlch sgiliau presennol a’r ymdrech i gyrraedd Sero Net. Gall ymddiriedolwyr gyfrannu at waith CITB o fewn amgylchedd tîm cefnogol, yn ogystal â sicrhau bod CITB yn dilyn ei amcanion er budd y diwydiant adeiladu.

Mae CITB yn chwilio am Ymddiriedolwyr o blith cyflogwyr sydd wedi cofrestru ar gyfer lefi ac Ymddiriedolwyr Annibynnol nad ydynt o reidrwydd yn cael eu cyflogi gan gyflogwyr sydd wedi cofrestru ar gyfer lefi. Byddai CITB yn croesawu ac yn annog yn arbennig geisiadau gan unigolion sydd ag arbenigedd a gwybodaeth mewn Addysg Bellach a chyllid/cyfrifyddiaeth. Ymrwymiad pedair blynedd yw’r swydd, â’r posibilrwydd o’i hailbenodi am dymor ychwanegol o bedair blynedd.

Dywedodd Tim Balcon, Prif Weithredwr CITB: “Os ydych chi’n angerddol am y diwydiant adeiladu ym Mhrydain ac eisiau helpu i ddenu a chadw’r dalent iawn, yna dyma’r rôl i chi. Â’n hadroddiad diweddar gan y Rhwydwaith Sgiliau Adeiladu yn nodi bod angen 225,000 o weithwyr ychwanegol i ateb y galw erbyn 2027, ni fu erioed amser pwysicach i gefnogi’r diwydiant.”

“Mae ymddiriedolwyr yn chwarae rhan annatod wrth bennu cyfeiriad strategol CITB, yn ogystal â monitro perfformiad busnes a sicrhau bod cyflogwyr yn cael y gwerth gorau o’r lefi.”

Dywedodd Peter Lauener, Cadeirydd CITB: “Diben CITB yw cefnogi’r diwydiant adeiladu i gael gweithlu medrus, cymwys a chynhwysol, nawr ac yn y dyfodol. Mae’r diwydiant yn wynebu heriau sylweddol o ran moderneiddio’r ffordd y mae’n gweithio a datblygu sgiliau newydd i gyrraedd Sero Net yn ogystal â chynnal recriwtiad i grefftau traddodiadol mewn marchnad lafur gystadleuol ar gyfer talent.”

“Rydym yn datblygu strategaeth newydd i roi cyflogwyr ar flaen y gad wrth wario arian talwyr y lefi i wireddu’r amcanion hyn. Mae hwn yn gyfnod cyffrous i’r diwydiant adeiladu, ac mae hwn yn gyfle gwych i aelodau newydd y Bwrdd ymuno â ni.”

Ymunodd Diana Garnham fel Ymddiriedolwr dros wyth mlynedd yn ôl. Hi yw Cadeirydd Sgiliau Dwyrain Sussex, aelod o Banel Cynghori Sgiliau SELEP, Aelod o Gyngor Ysgol Ysbyty Crist, Llywydd Cymdeithas Cyn-fyfyrwyr Coleg y Brenin Llundain, Cadeirydd Grŵp Cynghori Cyn-fyfyrwyr Coleg y Brenin Llundain, a Chyfarwyddwr Cwmni RTM Tavern Quay.

Dywedodd Diana: “Mae fy niddordeb mewn sgiliau yn un aml-lefel. Rwyf am helpu unigolion i gyflawni eu potensial trwy fynediad at sgiliau a hyfforddiant i agor cyfleoedd gyrfa a gwaith. Rwy’n gweld yn y sector adeiladu amgylchedd sy’n awyddus i groesawu talent o bob gallu a helpu, yn arbennig, unigolion i lwyddo i gyrraedd gris cyntaf eu gyrfaoedd. Mae adeiladu hefyd wedi gweithio gyda rhai o’r cymunedau anoddaf eu cyrraedd. Rwyf hefyd yn gweld adeiladu fel un o sectorau allweddol economi’r DU ac rwy’n deall pa mor hanfodol yw sgiliau i sicrhau ei gynaliadwyedd a’i gynhyrchiant – felly mae bod yn rhan o CITB hefyd yn golygu gweithio er budd ehangach y cyhoedd.

Ychwanegodd: “Mae sgiliau gwrando yn hanfodol mewn sefydliad sydd ag amgylchedd rhanddeiliaid mor gymhleth. Mae deall rôl llywodraethu, rôl y Bwrdd a’r angen i gefnogi’r weithrediaeth i gyflawni a dull colegol o weithio â chyd-aelodau’r Bwrdd i gyd yn bwysig. Does dim un Ymddiriedolwr yn sefyll ar ei ben ei hun – mae amdano’r Bwrdd yn gweithio fel tîm.”

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Iau, 7 Medi 2023. Dysgwch fwy am fod yn Ymddiriedolwr a sut i wneud cais