Facebook Pixel
Skip to content

LHDTC+ yn y Diwydiant Adeiladu: Creu Gweithle Cynhwysol

A yw ystyried gyrfa yn y diwydiant adeiladu fel unigolyn LHDTC+ yn codi braw arnoch? Gall pryderon am dderbyniad a chynwysoldeb digalonni unigolion. Fodd bynnag, mae’r oes wedi newid, ac mae’n bwysig siarad am sut mae’r diwydiant adeiladu’n esblygu’n gyson ac yn dod yn fwy amrywiol.

Fel rhan o Pride 2023 buom yn siarad â Stephen Flatt, Cydlynydd Cynhyrchion a Gwasanaethau CITB, i ddeall ei brofiad yn y diwydiant adeiladu, a thynnu sylw at arwyddocâd rhwydweithiau LHDTC+ o ran meithrin ymdeimlad o berthyn a hyrwyddo amrywiaeth ar draws y diwydiant adeiladu.

Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i unigolion LHDTC+ sy’n ystyried gyrfa yn y diwydiant adeiladu?

Rwy’n meddwl mai’r prif beth i’w gofio yw bod bod yn rhan o’r gymuned LHDTC+ yn cael ei dderbyn yn fwy mewn llawer o leoedd nag y gallai rhywun feddwl. Yr ymateb ar unwaith yw poeni ac ofni na fyddwn yn cael ein derbyn, ond yn aml nid yw hyn yn wir. Rwyf wedi cydweithio â phobl amrywiol o bob cefndir, ethnigrwydd, credoau crefyddol, a chyfeiriadedd rhywiol ac yn canfod nad yw’r ffiniau hyn a sefydlwn yn ein meddyliau ein hunain yn ein hatal rhag gweithio’n llwyddiannus gyda phobl wahanol. Mae’r diwydiant adeiladu, yn awr yn fwy nag erioed, angen gweithlu amrywiol sy’n gynrychiolaeth wirioneddol o’r llu o wahanol bobl ledled y wlad.

Allwch chi rannu unrhyw brofiadau cadarnhaol o fod yn aelod o’r gymuned LHDTC+ yn y diwydiant adeiladu?

Ymunais â CITB ym mis Chwefror 2023. Fe ddes i o gwmni lle’r oeddwn wedi gweithio ers naw mlynedd ac wedi dod allan fel unigolyn hoyw yn ystod fy amser yn gweithio yno. Cefais fy nerbyn gan bawb ac roedd pawb yn gwybod fy stori. Gall do di weithle newydd a gorfod gwneud y broses hon eto fod yn frawychus. Mae fy nhîm i gyd wedi fy nerbyn ac wedi fy nghroesawu. Wrth drafod fy nghariad, does gan neb broblem, ac fe wnaeth hyn i mi deimlo’n gyfforddus o’r cychwyn cyntaf. Ar y cyfan, rwy’n gweld CITB yn gynhwysol, ac yn deall y cefndiroedd a’r ffyrdd o fyw amrywiol sydd gan eu staff.

Sut mae’r diwydiant adeiladu wedi dod yn fwy cynhwysol o’r gymuned LHDTC+?

Rwy’n meddwl, fel llawer o leoedd â gweithwyr sy’n ddynion heterorywiol yn bennaf, bod CITB yn sylweddoli bod angen iddo amrywiaethu a dod yn gynrychiolaeth wirioneddol o gymdeithas fodern. Rwy’n siŵr bod siwrnai hir o’n blaenau â hyn, ond mae pethau’n mynd i’r cyfeiriad cywir.

Yn eich barn chi, beth all cwmnïau a sefydliadau adeiladu ei wneud i greu diwylliant gweithle mwy cynhwysol o’u ac yn un sy’n derbyn eu gweithwyr LHDTC+?

Y prif beth yw bod angen i weithwyr deimlo eu bod yn cael eu derbyn. Mae angen iddynt wybod na fydd eu gwahaniaethau’n cael eu dal yn eu herbyn, ac nad yw pobl yn eu gweld am eu gwahaniaethau ond yn cydweithredu â nhw waeth beth yw eu hoffterau neu eu ffordd o fyw. Gall cwmnïau wneud hyn yn hawdd trwy gael negeseuon cynhwysol yn eu cyfathrebiadau mewnol neu gael bwletinau newyddion sy’n cwmpasu buddiannau’r holl weithlu. Hefyd, bydd corfforaethau sy’n cymryd rhan ddiffuant ym Mis Pride, yn hytrach na dim ond baner Pride yma neu acw trwy gydol mis Mehefin yn gwneud i gymuned y gweithlu hwnnw deimlo ei bod yn cael ei gweld a’i deall.

Hefyd gallent siarad â gweithwyr a gofyn beth y gallant ei wneud i wella. Gofyn y cwestiynau i’r bobl sy’n bwysig yw’r ffordd orau i gwmnïau ddysgu a thyfu a symud gyda’r oes. Gall hyd yn oed y cwmnïau mwyaf cynhwysol a chyfoes fod ar ei hôl hi gyda’r hyn sy’n dderbyniol ac nad yw’n dderbyniol o fewn cymuned benodol, ac mae’n rhywbeth sy’n esblygu ac yn newid yn barhaus.

Pam ydych chi’n meddwl bod rhwydweithiau LHDTC+ mor bwysig yn y diwydiant adeiladu?

Gall y diwydiant adeiladu fod yn lle brawychus. Rwy’n cofio yn fy arddegau, yn gwneud rhywfaint o waith ar safle adeiladu fel labrwr gydag un o fy ffrindiau. Roedd genna’i ofn y byddai un o’r dynion hŷn ar y safle yn gofyn i mi a oeddwn yn hoyw neu’n fy ngwatwar o flaen y bricwyr a’r gweithwyr eraill. Bydd yr oruchafiaeth heterorywiol, wrywaidd hon yn wir ar rai safleoedd, ond yn yr un modd bydd llawer o safleoedd lle nad yw hyn yn wir. Yn yr wythnosau roeddwn i’n gweithio, ni soniwyd erioed am unrhyw beth negyddol yn ymwneud â fy rhywioldeb ac roedd hyn yn fwy o frwydr fewnol i mi.

Gall rhwydweithiau yn y diwydiant adeiladu helpu pobl a all fod â’r un pryderon, boed hynny ar safle neu mewn cwmni mwy. Bydd pobl yn teimlo’n fwy cyfforddus ar unwaith pan fyddant yn gwybod bod ganddynt bobl o’r un feddwl i helpu gyda’u brwydrau a’u problemau.

Pa ffyrdd y mae rhwydweithiau LHDTC+ yn helpu i hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiant mewn adeiladu?

Rwy’n meddwl bod cael rhwydweithiau fel hyn yn helpu’r bobl o fewn y rhwydwaith i deimlo eu bod yn cael eu gweld a’u cynnwys ond hefyd yn helpu pobl eraill o fewn y gorfforaeth i wybod beth yw safbwynt y cwmni ar LHDTC+ a’r ffaith bod hyn yn rhywbeth y mae’r cwmni’n ei gefnogi ac yn ei gydnabod o fewn ei weithlu. Po fwyaf amlygrwydd ac ymwybyddiaeth sydd gan LHDTC+ yn y diwydiant adeiladu, y gorau yw hi i’r gweithlu yn gyffredinol, yn enwedig aelodau’r gymuned nad ydynt efallai’n teimlo’n gyfforddus â’u hunain eto.

Sut ydych chi’n gweld rhwydweithiau LHDTC+ yn esblygu yn y dyfodol?

Mae’n debyg mai’r nod yn y pendraw fyddai teimlo nad oes cymaint o angen amdanynt. Nid yw bod yn aelod o’r gymuned LHDTC+ yn rhywbeth y dylai fod angen ei drafod yn y gwaith, gan nad yw’n berthnasol i’n proffesiynoldeb na’n gallu i wneud y swydd yn dda. Mae eu hangen ar hyn o bryd oherwydd lle mae’r wlad a’r safbwyntiau negyddol cyffredinol sy’n cael eu hyrwyddo gan ychydig o bobl yn erbyn ein cymuned. Fodd bynnag, rwy’n meddwl y byddant yn bwysicach yn y dyfodol gan ei bod yn ymddangos bod y rhaniad yn gwaethygu mewn rhai achosion er bod cynhwysiant yn gyffredinol yn well.

Sut gall unigolion nad ydynt yn rhan o’r gymuned LHDTC+ gefnogi a chynghreirio â rhwydweithiau LHDTC+?

Mae fy nghydweithwyr yn enghraifft dda o hyn. Maent wedi fy nhrin yn union yr un fath ag unrhyw aelod arall o’r tîm ac ni chyfeiriwyd o gwbl at fy newis rhywiol. Dyma’r ffordd orau i fod yn gynghreiriad a chefnogi aelodau o’r gymuned. Trwy wneud i’r bobl sy’n rhan o’r gymuned LHDTC+ deimlo eu bod yn cael eu derbyn yn llwyr ac fel nad yw eu cyfeiriadedd rhywiol neu hunaniaeth rhywedd yn eu diffinio.

Pa neges hoffech chi ei rhannu gyda’r rhai a allai fod yn ystyried ymuno â rhwydwaith LHDTC+?

Ewch amdani ac ymunwch ag un gan fod bod mewn cysylltiad â phobl o’r un feddwl a allai fod â’r un trafferthion neu broblemau â chi bob amser yn mynd i fod o fudd i chi.

I gael gwybodaeth am bwysigrwydd rhwydweithiau LHDTC+ mewn adeiladu, ewch i wefan Am Adeiladu.