Facebook Pixel
Skip to content

Mae CITB yn croesawu strategaeth newydd CLC

Dywedodd Prif Weithredwr CITB, Tim Balcon, sy’n aelod o Grŵp Tasglu CLC:

“Rydym yn croesawu strategaeth tair blynedd newydd y CLC a’i ffocws ar weithio ar y cyd i gyflawni newid trawsnewidiol, hybu cynhyrchiant a chreu diwydiant mwy gwydn, gan greu gallu a chapasiti i sicrhau twf yn y dyfodol.

“Trwy fuddsoddi dros £233m ar draws y sector eleni, mae CITB yn gweithio’n galed i gefnogi’r diwydiant adeiladu i gael y gweithlu medrus, cymwys a chynhwysol sydd ei angen arno, nawr ac yn y dyfodol.

“Mae gweledigaeth CLC yn nodi cyfnod newydd i’r Cyngor ac mae’n ategu’n llwyr ein gwaith yn CITB a’n cynllun busnes 2022/23, sy’n canolbwyntio ar ymateb i’r galw am sgiliau, datblygu capasiti a gallu’r ddarpariaeth hyfforddiant, a mynd i’r afael ag anghenion sgiliau’r dyfodol.

“Mae’n wych ein bod yn cefnogi’r CLC i gyflawni ei strategaeth ac yn enwedig y rhwydwaith pobl a sgiliau y mae CITB yn ei gyd-gadeirio. Drwy weithio mewn partneriaeth, byddwn yn cynyddu ein heffaith ac yn helpu i fynd i’r afael â heriau allweddol y diwydiant ac yn annog mwy o bobl dalentog o bob cefndir i ymuno â’n diwydiant gwych.”

Darganfod mwy am strategaeth newydd CLC