Facebook Pixel
Skip to content

Mae Talentview Construction yn siarad ag arbenigwyr cynaliadwyedd ar gyfer Wythnos Gyrfaoedd Gwyrdd

Mae’r Wythnos Gyrfaoedd Gwyrdd yn cael ei chynnal am y tro cyntaf eleni (Tachwedd 7-12), gan dynnu sylw at swyddi sero net a llwybrau gyrfa gwyrdd ar draws pob sector, gan gynnwys adeiladu.

Fel rhan o’r ymgyrch, siaradodd y llwyfan gyrfaoedd, Talentview Construction (TVC) ag arbenigwyr cynaliadwyedd o bob rhan o’r sector ynghylch beth mae eu gwaith yn ei olygu:

Will Mason, peiriannydd amgylcheddol a chynaliadwyedd, Saint-Gobain Weber:

Mae fy ngwaith yn ymwneud â chreu Datganiadau Cynnyrch Amgylcheddol (EPDs) sydd wedi’u dylunio i egluro effaith amgylcheddol ein cynnyrch ar gwsmeriaid.

Mae’r Datganiadau'n seiliedig ar ddeall cylch oes ein cynnyrch ac maen nhw’n cynnwys llawer o ddata. Rwy’n gweithio gyda chydweithwyr ar draws y busnes, fel ein rheolwr safle logisteg yn Telford, a’n hwylusydd gweithgynhyrchu yn Flitwick, i gael y data sydd ei angen i’w cynhyrchu.

Amy Cussons, arweinydd cynaliadwyedd, Specialist Tiling Supplies (STS) Ltd:

Un o elfennau pennaf, a phwysicaf, fy swydd yw cyfrifo’r allyriadau rydym yn eu cynhyrchu ar draws y cwmni. Mae’n golygu cyfrifo allbynnau allyriadau blynyddol ar draws holl elfennau’r busnes, megis y trydan rydym yn ei ddefnyddio a’r tanwydd sy’n cael ei losgi ar y safle, a’r allyriadau anuniongyrchol sy’n gysylltiedig â’n cadwyn gwerth.

Yn ogystal â’r cyfrifiadau, rwy’n rhoi newidiadau rhagweithiol ar waith ar draws pob rhan o’r busnes. Dyma enghreifftiau: newid ein deunydd pacio i ddeunydd arall sydd â chynnwys wedi’i ailgylchu, ac addysgu aelodau ein tîm am bwysigrwydd byw’n gynaliadwy.

Rasheed Lawal, llysgennad cynaliadwyedd, Wates:

Rwyf yma i wneud yn siŵr bod cynaliadwyedd yn flaenllaw ym meddyliau pawb. Dyma rai o’m cyfrifoldebau arferol:

  • Monitro lefelau ynni, gwastraff, dŵr ac allyriadau
  • Cymryd rhan mewn gweithgareddau ymgysylltu â’r gymuned
  • Gofalu bod yr holl ddeunyddiau ar y safle yn cael eu hailddefnyddio, eu hailgylchu neu eu huwchgylchu

Rwyf hefyd yn aelod o’r grŵp strategaeth sy’n canolbwyntio ar helpu Wates i gyflawni ei nodau sero net 2025. Rwy’n mesur ac yn adrodd ar ein holl ddangosyddion perfformiad allweddol amgylcheddol, ac yn gwneud llawer mwy.

Oliver Glenister, cemegydd cynaliadwyedd, Saint-Gobain Weber:

Rwyf yma i helpu i leihau ein hôl troed carbon a chynyddu faint o ddeunydd wedi’i ailgylchu a deunydd anwyryfol sydd o fewn amrediad o gynnyrch Weber.

Mae fy ngwaith yn canolbwyntio’n bennaf ar ein defnydd o sment, gan mai dyma’r cyfraniad mwyaf at ein hôl troed CO2. Os gallwn leihau faint o sment sydd yn ein cynnyrch, gallwn leihau faint o CO2 sydd ynddynt. Rydym hefyd yn ymchwilio i nifer o ffyrdd eraill o fod yn fusnes mwy cynaliadwy.

Rwy’n treulio hanner fy amser yn y labordy yn arbrofi gyda phethau newydd, gwallgo, a hanner fy amser ar fy nghyfrifiadur yn dadansoddi canlyniadau.

I weld y cyfweliadau llawn a chael rhagor o wybodaeth am TVC, cliciwch yma.

Talentview Construction (TVC)

Mae TVC yn cael ei ddarparu gan y Cynllun Cadw Talent Adeiladu (CTRS), ac mae’n llwyfan ar-lein am ddim sy’n ceisio helpu pobl i ddod o hyd i swyddi, prentisiaethau a phrofiad gwaith yn y diwydiant adeiladu.

Mae’r safle’n cael ei gefnogi gan CITB, y Cyngor Arweinyddiaeth Adeiladu ac amrywiaeth eang o gyflogwyr, cyrff y diwydiant, sefydliadau proffesiynol, colegau ac undebau adeiladu. Dros y 12 mis diwethaf, ychwanegwyd mwy nag 11,600 o gyfleoedd gyrfaoedd cynnar at y wefan, gan ddenu mwy na 48,000 o ymweliadau gan ddarpar ymgeiswyr.