Open Doors 2025: CITB yn annog cyflogwyr adeiladu i gofrestru eu digwyddiadau
Mae gan gyflogwyr adeiladu ledled y wlad y cyfle i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o weithwyr adeiladu trwy ddangos cyffro gyrfa ym maes adeiladu a mynd â phobl ifanc i un o’u safleoedd. Mae Open Doors yn dychwelyd ym mis Mawrth 2025 ac yn cael ei ddarparu gan Build UK mewn partneriaeth â CITB a CSCS, gyda chefnogaeth partneriaid cyfryngau, cymunedol a diwydiant, sy’n annog cyflogwyr adeiladu i gofrestru eu digwyddiadau i gymryd rhan.
Mae Open Doors yn cynnig cyfle unigryw i’r cyhoedd fynd y tu ôl i’r llenni ar safleoedd adeiladu byw, swyddfeydd, ffatrïoedd, a chanolfannau hyfforddi ledled y DU – yn bersonol ac yn rhithiol.
Mae cyflogwyr sy’n cofrestru ar gyfer Open Doors ac sy’n darparu mewnwelediad i’r diwydiant yn rhoi eu hunain mewn sefyllfa wych i ddenu a chadw gweithwyr newydd a dangos manteision dilyn gyrfa ym maes adeiladu.
Dylai cyflogwyr sy’n cofrestru eu digwyddiadau ystyried pa brofiadau rhyngweithiol a chyfleoedd dysgu fydd fwyaf deniadol i bobl ifanc. Gallai hyn gynnwys darparu arddangosiadau ymarferol neu gael gweithwyr i egluro’r gwahaniaethau yn eu rolau a’u cyfrifoldebau.
Mae’r digwyddiad yn gyfle gwych i fusnesau bach a chanolig (BBaChau) yn y sector adeiladu ddenu prentisiaid newydd. Mae dros ddwy ran o dair o ddechreuwyr prentisiaethau adeiladu yn cael eu cyflogi gan gwmnïau o lai na 50 o weithwyr, sy’n dangos pa mor bwysig yw llif cryf o brentisiaethau i gyflogwyr adeiladu llai.
Dywedodd Deb Madden, Cyfarwyddwr Gweithredol, Ymgysylltu Gwledydd, CITB: “Mae Open Doors yn darparu fforwm gwych i gyflogwyr adeiladu ymgysylltu â gweithlu yfory, ac i bobl ifanc ddeall pleserau ac amrywiaeth gyrfa ym maes adeiladu. Mae angen i’r diwydiant recriwtio 50,000 o newydd-ddyfodiaid y flwyddyn ac mae Open Doors yn rhoi cyfle unigryw i bobl ifanc a’r rhai sy’n chwilio am newid gyrfa i fynd y tu ôl i’r llenni a gweld yn union beth sydd gan y diwydiant i’w gynnig.
“Mae hefyd yn gyfle gwych i BBaChau gymryd rhan ac arddangos eu safleoedd. Mae diwydiant adeiladu iach yn gofyn am gyflogwyr BBaChau llewyrchus gan eu bod yn hanfodol i sefydlu llif cryf o brentisiaid a newydd-ddyfodiaid.
“Rwy’n annog cyflogwyr adeiladu i achub ar y cyfle i gofrestru eu safleoedd ar gyfer Open Doors 2025, mae’n mynd i fod yn ddigwyddiad gwerth chweil.”
Bydd CITB yn croesawu mynychwyr i safleoedd ei Goleg Adeiladu Cenedlaethol (NCC) yn Bircham Newton ac Inchinnan fel rhan o raglen Open Doors.
Gall aelodau Build UK gofrestru eu digwyddiadau am ddim, ac mae gostyngiad cynnar ar gael i’r rhai nad ydynt yn aelodau tan 30ain o Dachwedd.
Mae’r dyddiadau allweddol ar gyfer Open Doors fel a ganlyn:
- 7fed o Hydref 2024 – Cofrestru digwyddiadau yn agor i gyflogwyr
- 13eg o Ionawr 2025 – Archebu lle yn agor i ymwelwyr
- 17eg – 22ain o Fawrth 2025 – Wythnos Open Doors
Gall cyflogwyr ddod o hyd i wybodaeth neu gofrestru eu safle ar gyfer Open Doors yma.
Sut wnaethon ni heddiw? Rhoi adborth