Facebook Pixel
Skip to content

Porth lles a llesiant y gweithlu am ddim i bawb ym maes adeiladu

Mae Elusen y Diwydiant Adeiladu Lighthouse wedi partneru â CITB a’r Samariaid i greu offeryn cymorth lles, fel rhan o fenter y diwydiant cyfan Make It Visible.  

Nod Make It Visible yw gwneud cymorth lles a llesiant yn weladwy ar bob safle adeiladu, gan helpu i leihau’r stigma sy’n gysylltiedig â’r pwnc a chynyddu ymwybyddiaeth o’r llwybrau cymorth sydd ar gael. Ar ôl sicrhau dro £400,000 o gyllid gan CITB, crëwyd porth gwefan rhad ac am ddim yn gynharach eleni i gefnogi’r fenter.  

Mae’r porth yn darparu ystod eang o adnoddau, sy’n ymdrin â themâu lles emosiynol, corfforol ac ariannol. Ei nod yw helpu unigolion i adnabod pryd y maent yn ei chael hi’n anodd a sut i ymdopi â heriau y maent yn eu hwynebu. Ar gyfer pob maes, mae rhestr helaeth o sefydliadau a all ddarparu cyngor a chymorth manwl pellach.

Mae ymchwil gan y Lighthouse Club yn dangos bod straen, iselder, neu orbryder yn cyfrif am 27% o’r holl salwch sy’n gysylltiedig â gwaith ym mhob maes adeiladu. Yn drasig, mae hefyd yn datgelu bod dau weithiwr adeiladu yn y DU yn lladd eu hunain bob dydd. Cenhadaeth yr elusen yw sicrhau nad oes unrhyw weithiwr adeiladu na’u teulu yn teimlo’n unig mewn argyfwng, a’u bod yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt cyn ei bod hi’n rhy hwyr.

Mae gan yr ymgyrch Make It Visible hefyd dasglu o bobl sy’n ymroddedig i ymweld â chwmnïau adeiladu, masnachwyr adeiladu, canolfannau llogi, a safleoedd ledled y DU ac Iwerddon i ddechrau’r sgwrs a chodi ymwybyddiaeth o’r adnoddau rhad ac am ddim. Mae’r tîm wedi siarad â bron i 30,000 o bobl ac wedi ymweld â mwy na 340 o safleoedd ers lansio’r ymgyrch yn gynharach eleni ym mis Mai.

Ar hyn o bryd mae’r porth yn cyfeirio ymwelwyr at y gwiriad iechyd meddwl mwyaf yn y byd, One Million Lives. Mae’r offeryn rhad ac am ddim hwn wedi’i ddatblygu gan weithwyr iechyd meddwl proffesiynol i helpu defnyddwyr i asesu eu cyflwr meddwl presennol a deall cymhlethdodau iechyd meddwl yn well. Nod One Million Lives yw creu effaith parhaus byd-eang trwy annog defnyddwyr i rannu’r offeryn â ffrindiau a theulu.

Dywedodd Bill Hill, Prif Swyddog Gweithredol Elusen y Diwydiant Adeiladu Lighthouse: “Rydym wedi cael ein llethu gan y gefnogaeth gan ein diwydiant i ymgymryd â’r her o wella lles a llesiant y gweithlu fel uned gref. Mae’r porth newydd hwn yn curadu’r holl wasanaethau rhad ac am ddim anhygoel gan amryw o elusennau yn y DU ac Iwerddon ac yn symleiddio mynediad i unrhyw un sy’n ceisio cymorth emosiynol, corfforol ac ariannol. Mae CITB wedi bod yn allweddol wrth wneud hyn oll ddigwydd. Mae llawer mwy i’w wneud ond mae hwn yn gam gwych ymlaen.”

Dywedodd Tim Balcon, Prif Weithredwr CITB: “Rydyn ni’n gwybod bod yna argyfwng iechyd meddwl enfawr yn y diwydiant adeiladu, ac mae’n rhaid i ni wneud mwy i gefnogi gweithwyr a’u teuluoedd. Mae’r ystadegau a gyflwynwyd gan ymchwil yr elusen Lighthouse yn wirioneddol erchyll, ac â Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd yn agosáu, rwy’n annog unrhyw un sy’n cael trafferth ar hyn o bryd i estyn allan at linell gymorth yr elusen.”

“Mae CITB wedi bod yn gwneud gwelliannau i sicrhau bod gweithwyr yn cael y cymorth lles sydd ei angen arnynt, ac rwy’n teimlo’n angerddol iawn am gario hyn drwodd i ddiwydiant. Bydd y gwaith rydym yn ei wneud â’r Lighthouse Club yn helpu i ysgogi newid diwylliant hirdymor a hyrwyddo tegwch, cynhwysiant a pharch ar draws gweithluoedd.

“Mae yna ddewis gwych o adnoddau ar-lein, a gobeithio y bydd hyn yn gwneud cymorth yn fwy hygyrch i’r diwydiant ehangach. Pan fydd pob gweithiwr yn gallu cael cymorth, heb ofni’r stigma, bydd bywydau’n cael eu hachub a bydd yn haws denu newydd-ddyfodiaid.”

I ganfod mwy a chael mynediad at yr adnoddau, ewch i’r porth Make It Visible heddiw.