Facebook Pixel
Skip to content

Pecyn Fideo

Rhannwch gynnwys fideo gyda Am Adeiladu

Mae Generation Z yn gwylio 68 fideo y dydd ar gyfartaledd ac mae 80% ohonyn nhw'n dweud bod YouTube wedi eu helpu i ddod yn fwy gwybodus am rywbeth. Mae fideo yn ffordd bwerus ac uniongyrchol i rannu negeseuon ysbrydoledig ac rydym bob amser yn chwilio am gynnwys newydd i ennyn diddordeb cynulleidfaoedd Am Adeiladu.

Cymerwch gip trwy'r rhestr isod i ddod o hyd i syniadau hawdd ar gyfer cynnwys fideo byr y gallwch chi ei greu a'i rannu gyda ni yn hawdd, i helpu i ddangos y cyfleoedd amrywiol yn ein sector ac ysbrydoli mwy o bobl i ymuno.

Gallwch gefnogi Am Adeiladu drwy:

  • Rhannu fideos diwydiant gyda Am adeiladu ar: Instagram, Facebook, Twitter a YouTube
  • Tagio @AmAdeiladu yn eich post ar y cyfryngau cymdeithasol 
  • E-bostio fideos i info@goconstruct.org gan ddefnyddio ‘cynnwys Am Adeiladu content’ fel teitl. Ar gyfer ffeiliau mawr, neu i anfon fideos lluosog, ystyriwch ddefnyddio WeTransfer i'w hanfon i ni.
Gofyn i weithwyr recordio fideos neu gymryd rhan mewn cyfweliadau byr i ddangos sut brofiad yw bod yn y diwydiant neu fynd i mewn iddo. Edrychwch ar ein cwestiynau cyfweliad a awgrymir i'ch rhoi ar ben ffordd.
Dangos grwpiau traddodiadol sydd heb gynrychiolaeth ddigonol, i'n helpu ni i newid canfyddiadau o'r diwydiant.
Recordio tystebau gweithwyr byr. Pam maen nhw'n caru'r diwydiant; Pa brosiectau maen nhw'n falch ohonyn nhw; Pam mae eu swydd yn gweithio iddyn nhw; Eu gobeithion am eu gyrfa.
Cofnodi diwrnod ym mywyd gweithiwr trwy ofyn iddynt recordio clipiau byr wrth iddynt wneud eu gwaith.
Rhannu diweddariadau o brosiect ar y gweill trwy daith fideo ar y safle.
Recordio pobl yn y gwaith neu arddangos sgil fel gosod brics neu fodelu data.
Dangos yr ystod o rolau amrywiol ar draws un prosiect, neu o fewn eich busnes.
Gwneud fideos sy'n dangos golygfeydd anarferol h.y gweithio o uchder (os yw'n ddiogel), o dan y ddaear, mewn lleoedd anghysbell neu ganol dinas.
Creu fideo yn dangos y cynnydd ar y safle ac amserlenni adeiladu.

Help ac adnoddau

Rydyn ni wedi creu rhai canllawiau i'ch helpu chi i rannu fideos gyda Am Adeiladu.

Filming guidelines (PDF, 1.6MB)