Cymru

Beth sydd ar gael i gyflogwyr adeiladu yng Nghymru
Ymgynghorwyr lleol yng Nghymru
Mae gan CITB ymgynghorwyr lleol i helpu cyflogwyr i gael mynediad at gymorth a gwasanaethau gan CITB yn ogystal â sefydliadau partner eraill yng Nghymru. Gweler isod am fanylion yr ymgynghorydd lleol yn eich ardal.
Ynys Môn, Conwy a Gwynedd, Caerffili, Torfaen, Blaenau Gwent, Sir Fynwy, Casnewydd, Merthyr Tudful, Pen-y-bont ar Ogwr
Aled Hughes
Ers 2010, mae Aled wedi bod yn rhoi cymorth a chyngor i gyflogwyr yn y diwydiant adeiladu. Mae'n ymgynghorydd gyrfaoedd cymwys ac ar hyn o bryd mae'n dilyn cymhwyster Lefel 5 y Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth (ILM) mewn Hyfforddi a Mentora.
Mae Aled yn siaradwr Cymraeg rhugl ac yn hapus i ddarparu gwasanaeth dwyieithog i fodloni anghenion cwsmeriaid.
Ffôn: 07795 800573
Ebost: Aled.Hughes@citb.co.uk
Trydar: @AledCITB
LinkedIn
Wrecsam, Sir y Fflint, Sir Ddinbych a Gogledd Powys
Emrys Roberts
Dechreuodd Emrys weithio fel Ymhynghorydd Gyrfa Adeiladu gyda’r CITB yn 2011 ac mae wedi bod yn Ymhynghorydd CITB ers 2016.
Cyn ymuno â'r CITB bu'n gweithio i Gyrfa Cymru yn y Gogledd Ddwyrain. Mae Emrys yn siaradwr Cymraeg rhugl ac yn hapus i ddarparu gwasanaeth dwyieithog i fodloni anghenion cwsmeriaid.
Ffôn: 07881 514865
Ebost: Emrys.Roberts@citb.co.uk
Trydar: @CitbEmrys
Ceredigion, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro
Helen Murray
Mae Helen wedi bod yn gweithio i CITB ers 2016 ac mae wedi bod yn eiriolwr hirdymor ar gyfer dysgu gydol oes a datblygu economaidd lleol.
Mae ganddi brofiad fel hyfforddwraig, rhedeg busnesau a gwerthuso; ac yn ddysgwr Cymraeg uwch.
Ffôn: 07500 096107
E-bost: Helen.Murray@citb.co.uk
Trydar: @H3l3nCITB
LinkedIn
Abertawe, Castell-nedd Port Talbot a De Powys
Jon Davies
Mae Jon wedi gweithio yn CITB ers dros 14 mlynedd, yn y cyfnod hwnnw yn cefnogi’r rhaglen brentisiaeth a nawr fel Ymgynghorydd Ymgysylltu yn Rhanbarth Abertawe a De Powys.
Mae'n hyrwyddwr DYYG, fel cyn-brentis ei hun. Mae'n Swyddog Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl cymwysedig ac wedi bod yn hyrwyddwr diogelu yn ei amser gyda CITB. Cyn cwblhau cymhwyster Lefel 5 y Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth (ILM) mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth mae Jon bellach yn gweithio tuag at ei BA Anrhydedd mewn Rheolaeth Busnes.
Ffôn: 07824 865551
E-bost: jon.davies@citb.co.uk
Trydar: @jondaviesCITB
LinkedIn: https://www.linkedin.com/in/jon-davies-b9ab97124/
Caerdydd, Bro Morgannwg a Rhondda Cynon Taf
Suzanne Perkins
Mae Suzi wedi ymuno â’n tîm CITB yn ddiweddar ar ôl gweithio i gwmni adeiladu mawr ers 2008 yn rheoli rhaglen Gwerth Cymdeithasol ac Ymgysylltiad Cymunedol rhanbarthol.
Mae Suzi yn edrych ymlaen at gefnogi ein cyflogwyr bach a mawr sydd wedi’u cofrestru â CITB ledled Caerdydd a’r Fro.
Mae Suzi yn Swyddog Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl ac mae hefyd yn gweithio tuag at NVQ/Sefydliad Arwain a Rheoli (ILM) Lefel 5 mewn Arwain a Rheoli.
Ffôn: 07770 678353
E-bost: Suzanne.Perkins@citb.co.uk
Bro Morgannwg, Pen-y-bont ar Ogwr, Caerffili a Merthyr Tudful
John Evans
Dechreuodd John gyda CITB fel Cynghorydd ym mis Awst 2019. Cyn ymuno â CITB bu John yn gweithio ar Brosiect Cronfa Gymdeithasol Ewrop.
Mae John yn siaradwr Cymraeg rhugl ac yn hapus i ddarparu gwasanaeth dwyieithog i ddiwallu anghenion cyflogwyr.
Ffôn/Fôn: +44 (0)7748 238 704
Ebost/Ebost: john.evans@citb.co.uk
Rhondda Cynon Taf a Chastell Nedd Port Talbot
Ross Baker
Mae Ross wedi bod gyda CITB ers 2013. Gan weithio o fewn y tîm prentisiaethau tan fis Gorffennaf 2021, cymerodd Ross ei rôl newydd fel Ymhynghorydd Ymgysylltu â Chwsmeriaid ar gyfer Rhondda Cynon Taf a Chastell-nedd Port Talbot. Treuliodd Ross 18 mlynedd yn gweithio gyda phrentisiaid adeiladu ar draws De-orllewin Cymru ac mae’n dod â chyfoeth o wybodaeth Prentisiaethau i’r rôl. Mae Ross yn swyddog cymorth cyntaf iechyd meddwl ac ar hyn o bryd yn astudio tuag at radd BA Anrhydedd mewn Economeg.
Mae Ross yn awyddus i gefnogi cymaint o gwmnïau â phosibl, mawr a bach, o fewn rhanbarthau RhCT a CNPT.
Ffôn: 07786 334801
E-bost: ross.baker@citb.co.uk
LinkedIn:Ross Baker
Rheolwyr partneriaeth yng Nghymru
Mae rheolwyr partneriaeth CITB yn gyfrifol am ffurfio a rheoli perthnasoedd strategol gyda sefydliadau partner. Mae ein rheolwyr partneriaeth hefyd yn cyfrannu ac yn cefnogi gweithredu polisi sy'n ymwneud ag adeiladu yng Nghymru.
Ein rheolwyr partneriaeth yng Nghymru yw:
Mark Bodger - Cyfarwyddwr Partneriaethau Cymru
Cysylltwch â Mark trwy Twitter @MBodger
Rob Davies - Uwch Reolwr Ymgysylltu â Chwsmeriaid Cymru
Ceri RushJones - Rheolwr Ymgysylltu â Chwsmeriaid ar gyfer Canolbarth a Gogledd Cymru
Cysylltwch â Ceri drwy Twitter @CeriCitb
Victoria Walsh - Rheolwr Ymgysylltu â Chwsmeriaid De Cymru
Cysylltwch â Victoria drwy Twitter @torswalsh
Mark Whitby - Rheolwr Ymgysylltu â Chwsmeriaid ar gyfer De Orllewin Cymru
Cysylltwch â Mark trwy Twitter @mark_whitby_CEM
Yng Nghymru mae gennym dîm o swyddogion prentisiaeth a’u rôl yw:
- hyrwyddo a dynodi cyfleoedd am leoliadau prentisiaeth gyda chyflogwyr
- cefnogi, mentora a monitro prentisiaid i sicrhau bod pob un ohonynt yn cyrraedd eu llawn botensial
- sicrhau bod lles prentisiaid yn hollbwysig bob amser gan gynnwys eu hiechyd a’u diogelwch
- gweithredu fel y prif bwynt cyfathrebu i gysylltu prentisiaid, colegau, cyflogwyr a rhieni/gwarcheidwaid.
Mae gwybodaeth am sut i gyflogi prentis ar gael yn yr adran Prentisiaethau CITB.
Fel arall, cysylltwch â’ch swyddog prentisiaeth CITB lleol i gael rhagor o fanylion am gymryd prentis:
Cysylltwch â'ch swyddog prentisiaeth CITB lleol
Ardal |
Enw |
Cyfeiriad e-bost |
---|---|---|
Blaenau Gwent |
Danny Thomas |
|
Pen y Bont ar Ogwr |
Cereen Watts |
|
Caerffili |
Stephen Bullock |
|
Caerdydd a'r Fro |
Victoria Booth |
|
Ceredigion |
Tanya Collins |
|
Sir Gaerfyrddin |
Jon Davie |
|
Sir Gaerfyrddin a Chastell-nedd Port Talbot |
Ross Baker |
|
Sir y Fflint |
Noel Robinson |
|
Gwynedd |
Jane Edgington |
|
Ynys Môn |
Ian Evans |
|
Merthyr Tydfil & Rhondda Cynon Taf |
Wayne Thomas |
|
Castell-Nedd Port Talbot |
Lisa Rees |
|
Casnewydd |
Julie Donoghue |
|
Sir Benfro |
Andrew Kidney |
|
Powys |
Clare Ward |
|
Abertawe |
Peter Carey |
|
Galwedigaeth Arbenigol Gogledd Cymru |
Gerallt Francis |
Mae yna lawer o sefydliadau sy'n cynnig cyllid i dyfu busnes a chyfleoedd i gael busnes newydd. Mae’r cymorth sydd ar gael yn cynnwys:
- Cyllid i dyfu busnes, recriwtio neu hyfforddi gweithwyr
- Cael mwy o fusnes
Cyllid i dyfu busnes, recriwtio neu hyfforddi gweithwyr
Rhaglen Cymhelliant Cyflogwyr Prentisiaeth Busnes Bach
Mae’r rhaglen hon yn cynnig ychydig o gymorth ariannol i fentrau bach a chanolig (SME) i recriwtio prentisiaid 16-19 oed. Ei nod yw darparu'r sgiliau sydd eu hangen ar unigolion a chyflogwyr yn yr hir dymor ac atal prinder sgiliau.
Dim ond i SME sy’n newydd i brentisiaethau neu sydd heb recriwtio prentis yn y 30 mis diwethaf y mae’r cymhelliant ar gael.
I gael rhagor o wybodaeth, ymwelwch â gwefan Rhaglen Cymhelliant Cyflogwyr Busnesau Bach Prentisiaeth.
Busnes Cymru
Mae Busnes Cymru yn cefnogi entrepreneuriaeth i annog creu, datblygiad a thwf cynaliadwy microfusnesau a busnesau bach a chanolig
https://busnescymru.llyw.cymru/
Porth ar-lein yw Porth i Fusnesau i fusnesau ledled Cymru gael mynediad at gyngor a chymorth i’w helpu i dyfu a ffynnu. O ddatblygu sgiliau gweithwyr presennol i gefnogaeth recriwtio a rhaglenni hyfforddi, mae Porth Sgiliau i Fusnes yn cynnig ystod o atebion i fodloni anghenion busnes unigol. Trwy'r Porth Sgiliau i Fusnes gallwch greu eich proffil sgiliau, darganfod mwy am y cymorth sydd ar gael yn eich ardal leol a siarad â chynghorwyr ymroddedig Busnes Cymru a fydd yn eich helpu i ddod o hyd i’r ateb cywir ar gyfer eich busnes. busnescymru.llyw.cymru/porthsgiliau
Gweithdy Cyngor Caerdydd ac unedau cychwyn busnes
Gall busnesau newydd a busnesau sy'n ehangu yng Nghaerdydd fanteisio ar un o 9 safle a reolir gan adran Datblygu Economaidd Cyngor Caerdydd. Mae'r safleoedd yn cynnal 140 o unedau gweithdy sydd ar gael i fusnesau lleol eu rhentu gyda thelerau 'mynediad hawdd ac hawdd i adael'.
Mae unedau'n amrywio o ran maint o 120 i 2,000 troedfedd sgwâr gyda mwyafrif yr unedau gweithdy wedi'u dynodi â dosbarth defnydd B1.
Ewch i wefan Cyngor Caerdydd i gael manylion ynghylch yr unedau sydd ar gael a thelerau rhentu.
Grant Busnes Conwy
Grant dewisol yw hwn i gefnogi twf busnesau, mentrau cymdeithasol neu brosiectau arallgyfeirio ffermydd Conwy.
Mae grantiau rhwng £200 a £1500 ar gael yn seiliedig ar 50% o gostau cymwys y prosiect.
I gael rhagor o wybodaeth am y grant hwn, ymwelwch â gwefan Canolfan Busnes Conwy.
Banc Datblygu Cymru
Mae Banc Datblygu Cymru, a sefydlwyd gan lywodraeth Cymru, yn cynnig amrywiaeth o opsiynau cyllid i helpu busnesau i ddechrau, cryfhau a thyfu.
Ewch i wefan Banc Datblygu Cymru i gael manylion yr opsiynau cyllid sydd ar gael i fusnesau adeiladu.
Cael mwy o fusnes
Cadw
Cadw yw gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru. Maent yn hysbysebu tendrau o bryd i'w gilydd i ddarparu gwasanaethau cadwraeth hanesyddol ac adeiladu cyffredinol.
Maent hefyd yn darparu canllawiau ar gyfer gwaith adfer ac adeiladu ar eiddo neu ardal hanesyddol.
Ewch ar wefan Cadw i gael rhagor o wybodaeth am y tendrau sydd ar gael.
GwerthwchiGymru
Mae porth GwerthwchiGymru yn rhestru'r holl gontractau sector cyhoeddus yng Nghymru sydd ar agor i wneud cais.
Mae'r porth hefyd yn cynnig cyfle i fusnesau restru nwyddau a gwasanaethau sydd ar gael i sefydliadau'r sector cyhoeddus.
Ewch ar wefan GwerthwchiGymru i gael rhagor o wybodaeth am sut i wneud cais am gontractau sector cyhoeddus.
Mae yna lawer o sefydliadau yng Nghymru sy'n darparu cyngor ar fusnes, recriwtio a chymorth gyrfaoedd i gyflogwyr adeiladu. Mae’r gwasanaethau cymorth sydd ar gael yn cynnwys:
Cyngor busnes a chymorth strategaeth
Hyrwyddo adeiladu fel gyrfa
Recriwtio a chadw
Hyfforddiant
Cefnogaeth arall
Cyngor busnes a chymorth strategaeth
Busnes Cymru
Mae Busnes Cymru yn wasanaeth rhad ac am ddim sy’n cynnig cymorth a chyngor diduedd, annibynnol i gyflogwyr ledled Cymru, ni waeth a ydynt yn fusnes newydd neu sefydledig.
Ewch ar wefan Busnes Cymru am fanylion y cymorth a'r gwasanaethau sydd ar gael.
Academi Busnes Gogledd Cymru
Mae'r academi yn cynnig rhaglen ddysgu sydd wedi'i chynllunio i helpu cyflogwyr adeiladu i ddatblygu strategaeth fusnes sy'n tyfu eu busnes.
Mae’r rhaglen 2 gam yn cynnwys cyfres o fodiwlau ymarferol dan arweiniad mentor busnes.
Ewch ar wefan Academi Busnes Gogledd Cymru am fanylion y rhaglen hon.
Hyrwyddo adeiladu fel gyrfa
Business in the Community Cymru
Mae Business in the Community Cymru (BITC) yn dod â chwmnïau at ei gilydd i fynd i’r afael â materion cymdeithasol. Mae eu rhaglen yn darparu fframwaith ar gyfer partneriaethau hirdymor rhwng busnesau ac ysgolion sydd o fudd i'r ddwy ochr.
Maent hefyd yn cefnogi llawer o gwmnïau i wneud gwirfoddoli yn norm yn eu gweithle.
Ewch i wefan BITC am ragor o wybodaeth .
Cyfnewid Busnes Addysg
Mae Cyfnewid Busnes Addysg Gyrfa Cymru yn helpu i baru cyflogwyr adeiladu ac ysgolion. Nod y cyfnewid yw rhoi cyfle i gyflogwyr weithio gydag ysgolion i ddatblygu rhaglenni addysgol yn ymwneud ag adeiladu.
Ewch ar wefan y Gyfnewidfa Addysg Busnes am ragor o fanylion.
Troi eich Llaw
Mae menter Troi eich Llaw yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau rhyngweithiol a hwyliog i ysgolion a myfyrwyr lle gallant gael blas ar y sgiliau sydd eu hangen ar gyfer gyrfa yn y sector adeiladu.
Mae'r rhaglen yn chwilio am gyflogwyr adeiladu fel partneriaid ar gyfer y fenter hon
Ewch i wefan Troi eich Llaw i gael rhagor o wybodaeth am y fenter.
Recriwtio a chadw
Chwarae Teg
Mae Chwarae Teg yn cynnal y Rhaglen Busnes Cenedl Hyblyg 2. Nod y rhaglen yw gwella perfformiad busnes trwy recriwtio, cadw a datblygu gweithlu amrywiol yn effeithiol.
Ewch ar wefan Chwarae Teg am ragor o wybodaeth am y rhaglen hon.
Ymddiriedolaeth y Tywysog
Mae Ymddiriedolaeth y Tywysog yn helpu pobl ifanc i gael addysg, hyfforddiant a gwaith. Maent yn chwilio’n rheolaidd am fusnesau i bartneru â nhw yn eu rhaglenni, gan gynnwys lleoliadau gwaith a gwirfoddoli gan gyflogeion.
Ewch ar wefan Ymddiriedolaeth y Tywysog i gael rhagor o wybodaeth am sut i weithio mewn partneriaeth â'r ymddiriedolaeth.
Hyfforddiant
Canolfan Arloesi Adeiladwaith Cymru (CWIC)
Mae Canolfan Arloesi Adeiladwaith Cymru (CWIC) yn cynnig hyfforddiant adeiladu pwrpasol ac arbenigol i bob sector a lefel.
Ewch ar wefan Canolfan Arloesi Adeiladwaith Cymru am fanylion y cyrsiau sydd ar gael.
Arweinyddiaeth Ion
Mae'r rhaglen Arweinyddiaeth Ion yn helpu i ddatblygu a gwella sgiliau arwain perchnogion a rheolwyr busnes.
Maent yn cynnig cyrsiau arweinyddiaeth ymarferol sydd wedi'u cynllunio i helpu cyfranogwyr i ddysgu sut i roi'r syniadau, y strategaethau a'r arferion gorau diweddaraf ar waith yn eu busnesau.
Ewch ar wefan Ion Leadership am fanylion y cyrsiau a'r cymwysterau arweinyddiaeth sydd ar gael.
Porth Sgiliau
Mae'r Porth Sgiliau yn darparu nifer o becynnau cymorth i helpu cyflogwyr i ddynodi bylchau yn sgiliau eu gweithlu fel y gallant gynllunio hyfforddiant a datblygiad eu gweithwyr.
Mae'r Porth Sgiliau hefyd yn cynnig gwasanaethau a chymorth eraill, megis cymorth prentisiaeth a recriwtio.
Ewch ar wefan y Porth Sgiliau i gael rhagor o wybodaeth am eu gwasanaethau.
Cefnogaeth arall
Cymwysterau Cymru
Mae Cymwysterau Cymru yn rheoleiddio cymwysterau galwedigaethol yng Nghymru. Maent yn gweithio gyda llawer o sefydliadau i fonitro cydymffurfiad cyrff dyfarnu, adolygu cymwysterau presennol, goruchwylio dyluniad gofynion newydd a chefnogi'r system gymwysterau.
O bryd i'w gilydd, maent yn ymgynghori â chyflogwyr adeiladu ynghylch y cymwysterau sydd eu hangen yn y diwydiant.
Ewch ar wefan Cymwysterau Cymru i gael rhagor o wybodaeth am eu gwaith.
Mae 11 o grwpiau hyfforddiant adeiladu yng Nghymru sy’n cwmpasu ystod eang o sectorau adeiladu cyffredinol ac arbenigol.
Darganfod rhagor o fanylion am grwpiau hyfforddiant yng Nghymru.
Digwyddiadau rhwydweithio busnes, seminarau a gweithdai
Mae Canfyddwr Digwyddiadau Busnes Cymru yn rhestru’r holl ddigwyddiadau rhwydweithio, seminarau, gweithdai a chyrsiau byr sy’n ymwneud ag adeiladu sydd ar gael i gyflogwyr yng Nghymru.
Ewch ar wefan Canfod Digwyddiadau Busnes Cymru i ddod o hyd i’ch digwyddiad busnes agosaf.
Digwyddiadau cyflogwyr CITB
Mae CITB yn trefnu cymorthfeydd lleol lle gall cyflogwyr gyfarfod â’u cynghorwyr lleol wyneb yn wyneb i gael cyngor a chymorth ar sut i gael mynediad at grantiau CITB, cymorth ynghylch hyfforddiant a gwasanaethau prentisiaeth.
Mae CITB hefyd yn trefnu sioeau teithiol i gyflogwyr o leiaf unwaith y flwyddyn lle gall cyflogwyr lleol rwydweithio â’u cyfoedion a chael gwybodaeth am gynlluniau strategol CITB ar gyfer diwydiant adeiladu Cymru.
Gweler Digwyddiadau am ragor o wybodaeth gan gynnwys cofrestru i fynychu un o'r digwyddiadau hyn.
Digwyddiadau blasu addysg a sgiliau
Mae SgiliauCymru yn cynnig cyfle i bobl gael gwybodaeth uniongyrchol am yrfa yn y diwydiant adeiladu yng Nghymru. Mae'r digwyddiad rhad ac am ddim hwn yn cynnwys amrywiaeth o weithgareddau ymarferol a sesiynau blasu sgiliau, yn ogystal â gwybodaeth am gyrsiau addysg bellach a hyfforddiant sydd eu hangen ar gyfer swydd ym maes adeiladu.
Gweler digwyddiadau Sgiliau Cymru am ragor o wybodaeth.
Digwyddiadau hyfforddiant am ddim
Mae Canolfan Arloesi Adeiladwaith Cymru (CWIC) yn cynnig cyrsiau hyfforddi am ddim i gyflogwyr a gweithwyr adeiladu Cymru.
Ewch ar wefan CWIC am ragor o wybodaeth am y cyrsiau sydd ar gael.
Cymorthfeydd Cynghori
Cyfle i drefnu apwyntiad wyneb yn wyneb gyda'r Cynghorydd Lleol i drafod cyllid a grantiau CITB. I archebu e-bostiwch suzanne.perkins@citb.co.uk yr Ymgynghorydd Ymgysylltu Lleol.
Ble: Hwb Ar y Safle (SEWSCAP), Llanrhymni, Caerdydd
Dyddiadau: 31/01/2022, 12/04/2022, 14/06/2022
Accxel – Cymorth i Gyflogwyr Cymru – 02/02/2022
Digwyddiad ar-lein i fynd drwy grantiau CITB, cyllid a chymorth gyda Chyflogwyr Acxel sydd wedi’u lleoli yng Nghymru.
Wythnos Genedlaethol Prentisiaid: Canolbwyntio ar Adeiladu – 07/02/22-18/02/22
Digwyddiad ar-lein wedi'i anelu at y rhai sydd ar hyn o bryd ar gyrsiau FT adeiladu ac sy'n dymuno ymuno â'r sector fel prentis.
7 Chwefror – Coleg Sir Gâr
9 Chwefror – Coleg Ceredigion
9 Chwefror – Coleg Cambria
10 Chwefror – Grŵp Llandrillo Menai
18 Chwefror – Coleg Gwent
Cyflwyniad i Gymwysterau Adeiladu (Cymru) – 18/02/2022
Digwyddiad ar-lein yn archwilio’r fethodoleg y tu ôl i’r newidiadau ac i egluro’r strwythur cymwysterau newydd ar gyfer prentisiaid adeiladu yng Nghymru. Digwyddiad a gynhelir gan CITB mewn partneriaeth â Choleg Sir Gâr a City & Guilds.
Manylion y digwyddiad: https://www.eventbrite.co.uk/e/introduction-to-construction-qualifications-wales-tickets-243486212817
Diwrnod Rhyngwladol y Menywod – 04/03/2022
Digwyddiad wedi'i ohirio oherwydd cyfyngiadau Covid. Bydd rhagor o fanylion yn dilyn.
Diwrnod Agored / Cymhorthfa Cyflogwyr – 25/03/2022
Diwrnod agored / Cymhorthfa Cyflogwyr mewn partneriaeth ag un o’n ATO’s – Wow Training.
Eisiau cymorth i gynyddu busnes, cymryd prentis, cael mynediad at grantiau a chymorth ariannol ar gyfer hyfforddiant adeiladu? Ymunwch â Cymorthfa CITB yn Wow Training, Caergybi.
Hyfforddiant Llysgenhadon STEM Am Adeiladu - I'w gadarnhau
Sesiwn ragarweiniol i ymgeiswyr sydd am gofrestru fel ein Llysgenhadon STEM Go Construct. Am ragor o fanylion: Cenhadon Adeiladu (Sut i ddod yn un?) | Am Adeiladu (goconstruct.org)
Llysgennad STEM Am Adeiladu – ‘sesiwn ymarferol’ – i’w gadarnhau
Cyfle i’n Llysgenhadon ddod draw a rhoi cynnig ar yr amrywiol gitiau a gweithgareddau sydd ar gael i’w cefnogi gyda gweithgaredd eu gyrfa.
Lle: CWIC, Abertawe
Sgyrsiau am Iechyd a Diogelwch gyda Dysgwyr L1 – I'w gadarnhau
Mae’r Ymgynghorydd Ymgysylltu Lleol yn gweithio gyda ‘Grŵp Gweithio’n Dda Gyda’n Gilydd’ Coleg Gwent a HSE sy’n cynnwys rheolwyr adeiladu HSE a fydd yn trafod arfer gorau H&E Dysgwyr Adeiladu L1 pan fyddant allan ar y safle, naill ai ar safle diwydiannol neu ddomestig.
Digwyddiad wedi'i ohirio oherwydd cyfyngiadau Covid. Bydd rhagor o fanylion yn dilyn.
Sioe Adeiladu Cymru, Caerdydd – 06/04/2022
Mae’r arddangosfa undydd yn dod â chyflenwyr a masnachau ynghyd ar gyfer diwrnod o rwydweithio a chysylltu, ac mae’n rhad ac am ddim i ymwelwyr gofrestru ar gyfer y digwyddiad. Bydd gan CITB stondin a chynghorwyr ar gael i gwrdd a thrafod gyda chyflogwyr sy'n ymweld â'r sioe.
Ble: Stadiwm Dinas Caerdydd
Digwyddiad Cyflogwyr a Phrentisiaethau Coleg Gwent – I’w gadarnhau Ebrill 2022
Cyfle i gyflogwyr arddangos eu cyfleoedd i brentisiaid a chwrdd â dysgwyr sydd â diddordeb.
Ble: Coleg Gwent
Mae nifer o ymgynghoriadau ar agor ar hyn o bryd lle gwahoddir cyflogwyr adeiladu i gyfrannu eu barn iddynt.
Mae sefydliadau sydd am ymgynghori â’r diwydiant adeiladu fel a ganlyn:
Mae gwybodaeth am y farchnad lafur yn bwysig i fusnesau lleol yn ogystal â Phartneriaethau Sgiliau Rhanbarthol (RSPs). Mae’r adroddiadau hyn yn eu helpu i ddeall ble mae’r bylchau yn y farchnad lafur y gallant fanteisio arnynt, neu y mae angen iddynt gynyddu gweithgarwch recriwtio ynddynt.
Mae Llywodraeth Cymru yn cynhyrchu cyfres reolaidd o adroddiadau gwybodaeth rhanbarthol ar gyfer y wlad. Mae’r rhain ar gael i'w lawrlwytho'n rhad ac am ddim o wefan Busnes Cymru:
Mae cyflogwyr adeiladu yng Nghymru yn elwa ar y cymorth a'r gwasanaethau y maent yn eu cael gan CITB a'i bartneriaid. Dyma’r detholiad diweddaraf o straeon llwyddiant gan gyflogwyr ledled Cymru:
- Cadw ein sgiliau treftadaeth
Darganfyddwch sut y cafodd Recclesia, cwmni cadwraeth treftadaeth yng Ngogledd Cymru, arian i hyfforddi'r genhedlaeth nesaf o arbenigwyr masnach cadwraeth. - "Does dim ots pwy ydych chi - gallwch chi ei wneud!"
Dysgwch sut mae’r pensaer a seren Great British Bake Off, Ruby Bhogal, wedi ysbrydoli cenhedlaeth newydd o ferched ifanc i fynd i’r diwydiant adeiladu. - Cyllid i fanteisio ar farchnadoedd newydd
Gallwch ddarganfod mwy am ddod yn Llysgennad STEM Am Adeiladu. - Diwrnod Rhyngwladol y Menywod: Annog menywod i adeiladu
Gwyliwch uchafbwyntiau’r digwyddiad ‘Diwrnod Rhyngwladol y Menywod: Annog menywod i fyd adeiladu’ isod, sy’n cynnwys sawl cyflogwr o Gymru a rannodd eu profiadau o fanteision recriwtio menywod i’w gweithlu.