Facebook Pixel
Skip to content

Gwrthdaro rhwng buddiannau

Mae CITB wedi ymrwymo i dryloywder, craffu, llywodraethu gwybodaeth a chynnal ffiniau clir.

Cred CITB fod tryloywder gwneud penderfyniadau a chraffu trylwyr gan randdeiliaid allanol, wedi'i gyfuno â gwybodaeth a gynhelir yn dda a rhwystrau strwythurol eraill, yn effeithiol wrth liniaru unrhyw effaith sy'n deillio o wrthdaro rhwng buddiannau canfyddedig neu wirioneddol a ddynodwyd wrth iddo gyflawni ei gyfrifoldebau statudol.

Mae CITB yn ymrwymo i:

  • sicrhau bod gwerth ei dryloywder yn y sector cyhoeddus yn cael ei hyrwyddo ar draws y sefydliad
  • sicrhau bod pwyllgorau llywodraethu yn cynrychioli barn rhanddeiliaid allweddol yn effeithiol, eu bod yn gryf, yn wybodus ac yn annibynnol 
  • ymgysylltu'n llawn â'r holl gyrff allanol gan graffu ar wahanol agweddau ei fusnes
  • cynnal ffiniau clir rhwng y staff, yn ogystal â disgyblaethau rheoli gwybodaeth sy'n cefnogi'r gwahanol agweddau ar ei fusnes lle mae potensial i wrthdaro godi.