Facebook Pixel
Skip to content

Prawf Iechyd, Diogelwch a'r Amgylchedd ar gyfer Rheolwyr a Gweithwyr Proffesiynol (Prawf ID&A RhGP)

Mae'r prawf yn newid - yr hyn sydd angen i chi ei wybod

Trosolwg

Mae'r prawf iechyd, diogelwch a'r amgylchedd (ID&A) ar gyfer Rheolwyr a Gweithwyr Proffesiynol, a'r deunyddiau adolygu sy'n cyd-fynd ag ef, wedi newid. Mae’r cynnwys wedi’i ddiweddaru i sicrhau ei fod yn addas ar gyfer rheolwyr a gweithwyr proffesiynol heddiw, gan ystyried newidiadau mewn deddfwriaeth, arferion gwaith, technoleg newydd ac anghenion y diwydiant.

Mae’r deunyddiau adolygu newydd ar gael i brynu o Siop CITB, siop Apple App Store, a Google Play.

Mae gwybodaeth am sut i archebu prawf ar y Tudalen prawf a chardiau ID&A

Pam mae’r prawf wedi newid?

Dros amser, bydd anghenion y diwydiant adeiladu ac anghenion y gweithlu modern yn newid. Er mwyn sicrhau bod y prawf yn parhau i fod yn berthnasol, yn addas i’r diben ac yn adlewyrchu newidiadau a wnaed i ddeddfwriaeth, arferion gwaith a thechnoleg newydd, rydym wedi diweddaru’r deunyddiau prawf a’r deunyddiau adolygu.

Gyda'r wybodaeth fwyaf diweddar a chywir, bydd rheolwyr a gweithwyr proffesiynol yn gallu arwain eu timau yn hyderus ar faterion iechyd, diogelwch a'r amgylchedd.

Ein pwrpas yw cefnogi’r diwydiant adeiladu i ddatblygu a chynnal gweithlu diogel, medrus a chymwys, nawr ac yn y dyfodol. I wneud hynny, mae'n rhaid i'n profion fod yn berthnasol - mae'n ymwneud â chadw pobl yn ddiogel. Mae mor syml â hynny.

Beth yw’r newidiadau?

Mae rheolwyr a gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant adeiladu yn gyfrifol am gydymffurfio ag arferion iechyd a diogelwch effeithiol, eu gwreiddio a'u rhoi ar waith. Yn y pen draw, mae hyn yn lleihau nifer y marwolaethau a'r damweiniau.

I gefnogi hyn, rydym wedi:

  • diweddaru ac ymestyn yr ystod o bynciau a gwmpaswyd yn y prawf
  • diweddaru cwestiynau presennol ac ychwanegu rhai newydd
  • diweddaru ein deunyddiau adolygu.

Pa bynciau newydd mae'r prawf yn eu cynnwys?

Mae’r prawf eisoes yn cwmpasu chwe maes allweddol, gan gynnwys:

  • Cyfreithiol a rheolaeth
  • Iechyd a lles
  • Diogelwch cyffredinol
  • Gweithgareddau risg uchel
  • Amgylchedd
  • Gweithgareddau arbenigol

Fodd bynnag, yn seiliedig ar adborth gan y diwydiant, mae'r pynciau canlynol wedi'u gwella o fewn y meysydd allweddol presennol.

  • Iechyd meddwl
  • Arweinyddiaeth
  • Llywodraethu iechyd galwedigaethol
  • Diogelwch ymddygiadol
  • Technolegau newydd
  • Gwella cydymffurfiad deddfwriaethol.

Beth mae hyn yn ei olygu i mi?

Rydym yn argymell yn gryf bod pob ymgeisydd yn adolygu er mwyn rhoi'r cyfle gorau iddynt lwyddo yn eu prawf.

Dylai unrhyw un sy'n sefyll y prawf newydd ganiatáu digon o amser ar gyfer adolygu a dod yn gyfarwydd â'r cynnwys newydd cyn sefyll y prawf.

  • Mae’r deunyddiau adolygu newydd, sydd wedi'u datblygu i gyd-fynd â'r newidiadau i'r prawf, ar gael i brynu o Siop CITB, siop Apple App Store, a Google Play.
  • Mae’r holl ddeunydd adolygu wedi'i labelu'n glir a'i arwyddo gyda rhif y fersiwn diweddaraf, felly gallwch fod yn sicr eich bod yn cael y deunydd adolygu cywir ar gyfer eich prawf.
  • Mae prawf sampl wedi'i greu i roi syniad o'r mathau o gwestiynau a'r gwahanol feysydd pwnc sydd wedi'u cynnwys yn y prawf MAP newydd. Mae 14 cwestiwn i chi roi cynnig arnynt. Ni ddylid defnyddio'r prawf sampl ar ei ben ei hun, ond fel rhan o'ch adolygiad. .

Deunydd adolygu

Mae llyfrau adolygu ar gyfer y prawf Iechyd a Diogelwch ar gyfer Rheolwyr a Gweithwyr Proffesiynol ar gael o Siop CITB.

Cael yr ap

Mae yna hefyd ap defnyddiol y gellir ei lawrlwytho o'r Siop Ap Apple Store a/neu'r Ap Android neu Siop Google Play. Gellir defnyddio’r ap, sy’n costuio £6.99, i sefyll profion ffug cyn eich prawf arferol.

Prawf Sampl

I gefnogi eich adolygu rydym wedi creu prawf sampl.

Mae'r prawf sampl yn rhoi syniad o'r gwahanol fathau o gwestiynau a meysydd pwnc sydd wedi'u cynnwys yn y prawf MAP newydd. Mae 14 cwestiwn i chi roi cynnig arnynt.

Ni ddylid defnyddio'r prawf sampl ar ei ben ei hun, ond fel rhan o'ch adolygiad.

Prawf Sampl

Marc pasio

O 27 Mehefin 2023 y marc pasio ar gyfer y prawf Rheolwyr a Gweithwyr Proffesiynol (MAPS) yw 90%. I basio, mae angen i chi ateb o leiaf 45 allan o 50 cwestiwn yn gywir. Mae'r marc pasio yn newid i sicrhau cysondeb ar draws yr holl brofion Iechyd, Diogelwch a'r Amgylchedd.

Archebu prawf

Pan fyddwch yn teimlo'n barod i archebu prawf, gallwch ddod o hyd i'r holl wybodaeth ar sut i wneud hynny ar ein tudalen archebu prawf.