Facebook Pixel
Skip to content

Ynglŷn â Phrentisiaethau CITB

Mae Prentisiaeth CITB yn cyfuno profiad ar y safle â dysgu mewn coleg i ddarparu'r cydbwysedd cywir o hyfforddiant a phrofiad go iawn.

Beth yw Prentisiaeth CITB?

Mae Prentisiaeth CITB fel arfer yn parhau am rhwng dwy a phedair blynedd yn dibynnu ar ble rydych wedi'ch lleoli a pha lefel o gymhwyster rydych yn astudio ar ei gyfer. Yn ystod y cyfnod hwn byddwch yn cael Swyddog Prentisiaeth i'ch cefnogi a'ch arwain trwy eich rhaglen hyfforddi.

Gweler manylion yr hyn y gall Prentisiaeth CITB ei gynnig i chi isod

Fel prentis, byddwch:

  • Mewn cyflogaeth llawn amser
  • Yn cael eich talu'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol ar gyfer Prentisiaid o leiaf - mae llawer o brentisiaid yn ennill llawer mwy
  • Yn ennill cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol
  • Yn cael profiad ymarferol i'ch helpu i ddatblygu'r sgiliau sydd arnoch eu hangen i gychwyn gyrfa lwyddiannus.

Mae hyfforddiant yn y gwaith wedi'i strwythuro a'i gytuno gyda'ch cyflogwr i sicrhau eich bod yn dysgu'r sgiliau cywir.

Trefnir hyfforddiant i ffwrdd o'r gwaith i chi mewn coleg neu ganolfan hyfforddi. Gallwch gwblhau'r hyfforddiant hwn ar ddiwrnod astudio neu dros ddiwrnodau olynol mewn cyfres o flociau.

Plastro, sgaffaldio, gosod brics a gwaith saer yw ychydig yn unig o'r prentisiaethau gwahanol sydd ar gael yn y diwydiant adeiladu. Efallai y byddwch chi'n gyfarwydd â rhai o'r dewisiadau, ond mae digon o ddewisiadau eraill a allai eich synnu. Gallwch ddarganfod mwy am yr hyn sydd ar gael ar GoConstruct [EwchiAdeiladu].

Lefelau prentisiaeth

Mae Cynllun Prentisiaethau CITB yn cynnig prentisiaethau ar dair lefel, yn dibynnu ar ble rydych chi'n byw ym Mhrydain Fawr:

  • Lefel 2 - sy'n gyfwerth â TGAU/Graddau Safonol
  • Lefel 3 - sy'n gyfwerth â Lefelau A/Uwch
  • Lefel 4 - sy'n gyfwerth â Gradd Sylfaen/Uwch Datblygedig.

Mae prentisiaeth i Lefel 2 yn cymryd dwy flynedd i'w chwblhau. Gall prentisiaid barhau am flwyddyn ychwanegol i gyflawni Lefel 3.

Mae Lefel 4 ar gyfer pobl sydd am symud ymlaen i yrfaoedd Technegol, Dylunio a Rheoli.

Beth fydda i'n ei wneud fel prentis?

Byddwch yn gweithio i gwmni sy'n gweithredu yn y diwydiant adeiladu. Mae'r dyddiau'n aml yn hir a gall fod yn waith caled, ond mae'r gwobrau'n ardderchog os ydych chi'n dal ati.

Mae cyflogwyr yn amrywio o ran maint o fusnesau bach i gwmnïau mawr cenedlaethol a hyd yn oed rhyngwladol, felly gallai fod digon o gyfle i deithio, efallai hyd yn oed dramor. Efallai y bydd angen i chi fyw oddi cartref hefyd, felly bydd bod yn annibynnol yn eich helpu i addasu'n gyflym i'ch bywyd newydd.

Yn naturiol, byddwch yn dechrau ar waelod yr ysgol yn dysgu sut i wneud popeth yn gywir, ond wrth i'ch sgiliau a'ch gwybodaeth gynyddu byddwch yn cael tasgau mwy anodd, heriol a boddhaus. Dechreuodd llawer o gyflogwyr fel prentis eu hunain ac maent bellach yn rhedeg eu busnesau llwyddiannus eu hunain.

Bydd eich diwrnod fel arfer yn dechrau cyn 8am, felly mae hynny'n golygu y bydd rhaid i chi godi'n gynnar i gyrraedd y safle neu'r gweithdy a byddwch fel arfer yn gorfod trefnu eich ffordd yno eich hunain. Yn ogystal â gadael digon o amser i deithio, bydd angen i chi hefyd wneud eich trefniadau eich hun i gyrraedd yno.

Mae isafswm cyflog o £95 yr wythnos i ddechrau ond os ydych chi'n gweithio'n galed ac mae'ch sgiliau a'ch profiad yn cynyddu, felly hefyd bydd eich cyflog. Mae rhai cyflogwyr yn talu mwy na hyn o'r cychwyn cyntaf.

Nid yw prentisiaid yn cynilo eu harian i gyd, bydd angen peth ohono ar gyfer eich bywyd cymdeithasol newydd gyda'r ffrindiau rydych chi wedi cwrdd â nhw yn y gwaith a'r coleg. Bydd rhaid i chi gadw rhywfaint yn ôl i brynu offer o ansawdd da hefyd, gan mai dyma ddechrau'ch bywyd fel crefftwr ac mae cael yr offer cywir yn hanfodol os ydych am gamu ymlaen. 

Byddwch yn dysgu sgiliau newydd yn gyson yn y coleg ac yn eu rhoi ar waith mewn amgylchedd gwaith go iawn. Mae'r sgiliau hyn yn hanfodol i'ch prentisiaeth a bydd angen i chi gofnodi'r hyn rydych wedi'i wneud yn eich portffolio cymwysterau i brofi eich bod yn gymwys yn eich crefft dewisol.

Canfod beth yw barn prentisiaid ar eu gyrfaoedd yn Go Construct

Cymwysterau yn ogystal â sgiliau

Mae'r mwyafrif o brentisiaid yn dilyn llwybr Prentisiaeth Draddodiadol, sy'n cyfuno presenoldeb mewn coleg (neu ddarparwr hyfforddiant) â dysgu ar y safle.

Mae CITB hefyd yn cynnig Rhaglenni Prentisiaeth Arbenigol sy'n cynnwys hyfforddiant gan wneuthurwr corfforaethol neu gymdeithas fasnach yn hytrach na choleg.

Fel rhan o'ch prentisiaeth, byddwch yn ennill NVQ neu SVQ sef y prif gymhwyster i ddangos y gallwch wneud eich gwaith. Gallwch ddefnyddio hwn hefyd i gymhwyso ar gyfer un o gynlluniau cerdyn y diwydiant, sy'n hanfodol ar gyfer mynd ar y safle.

Bydd y cymwysterau dilynol yn rhan o'ch prentisiaeth hefyd:

  • Lloegr - Diploma NVQ, Diploma, Sgiliau Gweithredol a Hawliau a Chyfrifoldebau Cyflogaeth
  • Cymru - Diploma NVQ, Diploma, Sgiliau Hanfodol a Hawliau a Chyfrifoldebau Cyflogaeth
  • Yr Alban - Cymhwyster Cymeradwy y Diwydiant.

Os ydych chi am wirio manylion llawn yr holl gymwysterau a sgiliau ar gyfer pob Prentisiaeth Adeiladu Traddodiadol, cliciwch y dolenni isod.

Prentisiaethau Lloegr

Prentisiaethau Canolradd (Lefel 2) ac Uwch (Lefel 3) ar gyfer:

Prentisiaethau Cymru

Y Brentisiaeth Sylfaen (Lefel 2) (Lefel 3) Uwch (Lefel 4 ac yn uwch) ar gyfer:

Mae rhagor o wybodaeth am fframweithiau prentisiaeth sy'n diwallu'r safonau cenedlaethol ar gyfer Cymru a Lloegr ar gael yn Fframweithiau Prentisiaethau Ar-lein.

Prentisiaethau yr Alban 

Gellir gweld a lawrlwytho Prentisiaethau Modern Adeiladu ar gyfer yr Alban oddi ar Skills Development Scotland.

Rhaglenni Prentisiaeth Arbenigol

Mae Prentisiaethau Arbenigol CITB wedi'u cynllunio gyda chymdeithasau masnach a grwpiau hyfforddi annibynnol. Maent yn darparu hyfforddiant ar gyfer y sectorau a chyflogwyr hynny na allant gyrchu prentisiaethau arbenigol trwy golegau neu ddarparwyr hyfforddiant lleol.

Mae angen i bobl sy'n gweithio mewn crefftau arbenigol fod yn hyblyg iawn â dysgu, felly mae Rhaglenni Prentisiaid Arbenigol yn caniatáu i brentisiaid ddysgu yn y gwaith yn bennaf. Mae strwythur o hyd i'r hyn rydych yn ei ddysgu, sy'n sicrhau eich bod yn cael yr holl wybodaeth a sgiliau sydd arnoch eu hangen i ennill cymhwyster N/SVQ cydnabyddedig.

Yn nodweddiadol, mae Prentisiaeth Arbenigol yn parhau am ddwy flynedd â'r dysgu'n cael ei ddarparu gan arbenigwyr yn y diwydiant ac yn cael ei gefnogi gan staff CITB ei hun.