Consensws 2025
Ymgynghoriad
Eich Diwydiant, Eich Llais:
Cymerwch ran yn Ymgynghoriad Lefi CITB rhwng 26 Medi a 24 Hydref.
Ynglŷn â Chonsensws
Beth yw Consensws? Sut mae CITB yn ymgynghori â’r Diwydiant Adeiladu? Sut mae Consensws yn cael ei gyflawni a’i gyfrifo?
Cwestiynau Cyffredin Consensws (PDF, 803KB)
Pam y dylech gymryd rhan yn ymgynghoriad Lefi CITB
Mae Lefi CITB wedi bod yn gonglfaen i’r diwydiant adeiladu ym Mhrydain ers 60 mlynedd, gan sicrhau bod gan weithwyr y sgiliau angenrheidiol i gadw safleoedd yn ddiogel a phrosiectau’n llwyddiannus.
Wrth i ni edrych tuag at y blynyddoedd tyngedfennol sydd i ddod, mae eich mewnbwn yn hanfodol. Rydym yn eich gwahodd i rannu eich barn ar y Lefi ddrafft.
Mae’r her yn glir. Mae ein rhagolwg diwydiant diweddaraf yn nodi y bydd angen 250,000 o weithwyr adeiladu ychwanegol yn y DU dros y pum mlynedd nesaf i ateb y galw.
Mae gwaith adeiladu yn cyfrif am 6.2% o economi Prydain Fawr a disgwylir iddo dyfu ymhellach, gyda phrosiectau adeiladu cartrefi a seilwaith yn uchel ar agenda’r Llywodraeth. Ni fu erioed yn bwysicach sicrhau bod gan y diwydiant y sgiliau cywir.
Er mwyn mynd i’r afael â’r anghenion hyn, mae gennym gynlluniau cadarn ar gyfer buddsoddi’r Lefi CITB, gan gynnwys:
- Gwella ansawdd a gallu’r Rhwydwaith o Ddarparwyr Hyfforddiant, a fydd yn ganolog i gymorth hyfforddi CITB.
- Buddsoddi £868 miliwn mewn sgiliau adeiladu dros oes Gorchymyn Lefi 2026-2029.
- Ehangu’r Tîm Cymorth i Newydd-Ddyfodiaid i adeiladu llif cryf o dalent yn y diwydiant adeiladu.
- Grymuso busnesau drwy ehangu ein Rhwydwaith Cyflogwyr newydd.
Mae’r Lefi’n gwneud newidiadau fel y rhain yn bosibl. Gyda demograffeg gweithlu sy’n newid yn gyflym, ein nod yw sicrhau dyfodol adeiladu trwy fynd i’r afael â heriau uniongyrchol a pharatoi ar gyfer twf hirdymor. Gyda’n gilydd, gallwn helpu’r diwydiant i gwrdd â’i ofynion sydd ar ddod a sicrhau ei lwyddiant parhaus.
Bydd eich llais yn gwneud gwahaniaeth wrth lunio dyfodol ein diwydiant. Rhannwch eich barn os gwelwch yn dda.
Canlyniadau Consensws 2021
Mae Consensws 2021-CITB yn cynnwys dadansoddiad o ganlyniadau'r Consensws blaenorol.
Sut wnaethon ni heddiw? Rhoi adborth