Facebook Pixel
Skip to content

Cydweithio yw hanfod llwyddiant

Chwe mis ar ôl lansio Cynllun Sgiliau’r Diwydiant diweddaraf Cyngor Arwain y Diwydiant Adeiladu, rwy’n falch iawn o rannu sut rydyn ni wedi cydweithio i gefnogi’r diwydiant.

A minnau’n Gyfarwyddwr Cwsmeriaid a Chynnyrch CITB a Chyd-gadeirydd Rhwydwaith Pobl a Sgiliau Cyngor Arwain y Diwydiant Adeiladu, rwyf wedi gweld y pethau ardderchog gallwn eu cyflawni drwy gyd-dynnu a chydweithio.

Datblygu sgiliau sy’n cymell fi a fy nghyd-weithwyr. Rydyn ni gyd yn elwa ar weithlu medrus iawn. Mae angen gweithlu o’r fath arnom i adeiladu ein tai a’n seilwaith, i foderneiddio’r byd o’n cwmpas, ac i’n paratoi ar gyfer heriau yfory.

Rhan o’n gwaith ni yn CITB yw sicrhau bod y sgiliau cywir yn y lleoedd cywir. Mae angen strategaeth arnom i wneud hyn – strategaeth sy’n cael ei chreu gan y diwydiant, ar gyfer y diwydiant.

Cydweithio

Mae Cynllun Busnes diweddaraf CITB yn gosod y sylfeini, gan fuddsoddi’r Ardoll i helpu’r diwydiant i gael gweithlu medrus, cymwys a chynhwysol, nawr ac yn y dyfodol. Ond ni allwn fynd i’r afael â’r bwlch mewn sgiliau ar ein pen ein hunain. Dyna pam mae ein gwaith â Chyngor Arwain y Diwydiant Adeiladu a’n partneriaid eraill drwy’r Rhwydwaith Pobl a Sgiliau mor bwysig.

Mae Cyngor Arwain y Diwydiant Adeiladu’n llais unedig ar draws y diwydiant, gan weithio i sbarduno twf a buddsoddiad, i wella cynhyrchiant ac i gynyddu’r capasiti sgiliau. Mae hyn yn bosib drwy gydweithio ar draws y diwydiant. Mae cynrychiolwyr y diwydiant, gan gynnwys rhai o CITB, busnesau bach a chanolig, cyrff cynrychioliadol a ffederasiynau crefft yn cytuno, ar y cyd, ar raglen i fodloni anghenion adeiladu orau.

Fy rôl i fel Cyd-gadeirydd y Rhwydwaith Pobl a Sgiliau yw dylanwadu ar yr agenda sgiliau ehangach i gyflawni ar gyfer ein cwsmeriaid. Rydyn ni’n cydnabod mai un o’r heriau mwyaf yw recriwtio a chadw pobl fedrus, felly yng Nghynllun Sgiliau’r Diwydiant, rydyn ni wedi amlinellu pedwar prif faes blaenoriaeth i wella ein dull o ddenu a datblygu pobl ar draws y diwydiant.

Sef:

  • Newid y diwylliant i wella mynediad i bawb
  • Cynyddu’r llwybrau i’r diwydiant
  • Gwella cymhwysedd a chreu fframweithiau i fodloni anghenion y diwydiant
  • Datblygu sgiliau ar gyfer diwydiant modern.

Nid tasg fechan mo hon ond rydyn ni eisoes wedi cael llwyddiannau gwych gyda’n gilydd.

Cyflawni ar y cyd

I ddenu ystod eang ac amrywiol o dalentau, rydyn ni’n gwneud yn siŵr bod y diwydiant adeiladu yn lle gwych i weithio ynddo. Rydyn ni wedi darparu hyfforddiant Tegwch, Cynhwysiant a Pharch i dros 4,000 o bobl, dros 1,000 o sesiynau blasu gwaith, ac wedi recriwtio 600 o Lysgenhadon STEM newydd. Rydyn ni’n adeiladu ar hyn drwy ddatblygu Cynllun Amrywiaeth y Diwydiant i helpu cyflogwyr i roi cynhwysiant wrth galon eu busnes.

Mae prentisiaethau wedi ailgodi’n gryf. Dechreuwyd 32,000 o brentisiaethau yn Lloegr yn 2021/22 ac roedd twf cadarn yng Nghymru a’r Alban hefyd. Cyllid yw’r prif beth sy’n rhwystro busnesau bach a chanolig rhag recriwtio prentisiaid yn aml, felly rydyn ni wedi lansio ymgyrch ernes Ardoll Brentisiaethau i annog cwmnïau mwy i drosglwyddo cyllid yr Ardoll sydd heb ei wario – gan adeiladu ar y £3m sydd eisoes wedi’i addo. Mae’r hwb ariannol hwn yn ategu’r £60m y bydd CITB yn ei fuddsoddi’n uniongyrchol mewn grantiau eleni.

Llwyddiant allweddol arall yw lansio Talentview, lle gall ymgeiswyr ddod o hyd i’w swydd gyntaf, i brentisiaeth neu i leoliad profiad gwaith ym maes adeiladu. Mae’r llwyfan recriwtio canolog, di-dâl hwn wedi bod o fudd i gyflogwr sy’n dymuno llenwi bylchau mewn sgiliau. Mae ymweliadau â’r wefan wedi cynyddu 13% ers mis Ebrill.

Rydyn ni wedi gwneud cynnydd da ar y chwe fframwaith cymhwysedd a amlinellwyd yng Nghynllun Sgiliau’r Diwydiant, gan gynnwys Leinio Sych, Plymio a Gwresogi, a Gwaith Toi. Bydd hyn yn golygu bod un diffiniad o gymhwysedd y gall pawb ei ddefnyddio wrth hyfforddi gweithwyr yn y meysydd hyn. Yn y pen draw, y nod yw cael set gyffredinol o fframweithiau cymhwysedd y gall yr holl safonau ar draws y diwydiant gysoni â nhw.

Mae paratoi ar gyfer anghenion sgiliau yn y dyfodol cyn bwysiced â mynd i’r afael â heriau heddiw. Mae’r Cynllun Gweithredu Sero Net, a gafodd ei lansio ym mis Medi, yn darparu eglurder hollbwysig ynghylch y sgiliau sydd eu hangen er mwyn paratoi ar gyfer Sero Net. Rydyn ni nawr yn gweithio gyda Phrifysgol Caergrawnt i ddatblygu map llwybrau sgiliau a llwybrau gyrfa Sero Net cyflawn.

Mae hyn yn cyd-fynd â’n dull, sy’n edrych tua’r dyfodol, o gael y seilwaith hyfforddi angenrheidiol yn ei le i fodloni anghenion sgiliau adeiladu, sy’n newid. Mae mentrau eraill, fel y Bŵt-camps Adeiladu, yn rhoi hwb mwy uniongyrchol i’r diwydiant o ran sgiliau. Mae 2,500 o ddysgwyr wedi cymryd rhan hyd yma.

Mae Cyngor Arwain y Diwydiant Adeiladu yn canolbwyntio ar Loegr ond ochr yn ochr â’n partneriaid datganoledig, fel Gyrfa Cymru a Skills Development Scotland, rydyn ni’n sicrhau bod y gwaith yn cael ei ddyblygu ar draws Cymru a’r Alban. Mae ein rhaglenni, gan gynnwys yr Hybiau Profiad ar y Safle yng Nghymru a’r Scottish Academy for Construction Opportunities, yn ategu ein gwaith gyda Chyngor Arwain y Diwydiant Adeiladu yn Lloegr.

Edrych tua’r dyfodol

Mae’r chwe mis diwethaf wedi dangos ein bod yn cyflawni mwy o lawer drwy gydweithio. Ni fyddai unrhyw ran o hyn yn bosib heb ymdrech aruthrol yr aelodau o’r Rhwydwaith Pobl a Sgiliau.

Mae’n bwysig ein bod yn parhau i gydweithio er mwyn cyflawni ein blaenoriaethau cyfunol. Gall hynny olygu cyflogi prentis, bod yn Llysgennad STEM, neu hysbysebu eich swyddi gwag ar Talentview. Neu beth am ddechrau drwy daro golwg ar Gynllun Sgiliau’r Diwydiant a’i rannu â’ch rhwydwaith?

Rydyn ni wedi ymrwymo i’r camau gweithredu cywir i ateb yr heriau o ran sgiliau sy’n wynebu’r diwydiant – ond mae’n hanfodol nad ydym yn sefyll yn ein hunfan. Gyda’ch cymorth chi byddwn yn adeiladu ar y gwaith gwych rydyn ni wedi’i wneud hyd yma ac yn helpu i adeiladu gweithlu sy’n gallu creu diwydiant y mae pawb am fod yn rhan ohono.

Jackie Ducker