Facebook Pixel
Skip to content

Cynllun Busnes yn rhoi cyflogwyr wrth y llyw gyda chronfa newydd arloesol

Gan ganolbwyntio ar dair blaenoriaeth graidd, cyhoeddodd CITB ei Gynllun Busnes heddiw (11 Ebrill), gan ddatgan y bydd yn buddsoddi dros £250m ledled Prydain i gefnogi’r diwydiant adeiladu.

Elfen flaenllaw'r cynllun ar gyfer 2023-24 yw’r Gronfa Dylanwad ar y Diwydiant. Mae’n cael ei lansio heddiw ac mae’n gwahodd cyflogwyr sydd wedi cofrestru â CITB i wneud cais am hyd at £500,000. Mae’r gronfa’n targedu pobl sy’n meddwl am y darlun mawr, sydd ag atebion arloesol i heriau sgiliau a hyfforddiant ar draws y meysydd canlynol: cynhyrchiant, cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.

Mae’r gronfa’n un o nifer o fentrau a amlinellir yn y cynllun sy’n ceisio rhoi cyflogwyr wrth y llyw, gan roi cyfle iddyn nhw gael mwy o lais o ran yr atebion gorau i fynd i’r afael â rhai o’r heriau mwyaf o ran sgiliau.
Gan adeiladu ar yr hyn a gyflawnwyd y llynedd, mae’r cynllun yn nodi sut y bydd CITB yn parhau i gefnogi’r diwydiant adeiladu i gael gweithlu medrus, cymwys a chynhwysol, nawr ac yn y dyfodol. Dyma’r tair blaenoriaeth a nodwyd gan CITB:

  • Gwella’r llif pobl yn y diwydiant adeiladu
  • Creu llwybrau hyfforddiant wedi’u diffinio
  • Cyflenwi hyfforddiant yn effeithlon

Gwella’r llif pobl yn y diwydiant adeiladu

Roedd adroddiad diweddaraf Rhwydwaith Sgiliau Adeiladu CITB yn dangos bod angen ychydig o dan 45,000 o weithwyr ychwanegol bob blwyddyn i ddiwallu’r galw rhwng nawr a 2027. Fodd bynnag, mae ymchwil yn dangos bod yn rhaid newid y farn hen ffasiwn am y diwydiant adeiladu er mwyn denu mwy o bobl i ymuno â’r diwydiant.

Bydd CITB yn:

  • Buddsoddi £8.2m ychwanegol mewn mentrau newydd ar gyfer 2023-24, gan gynnwys adeiladu ar gynnyrch presennol, a’u gwella, fel hybiau Am Adeiladu a Phrofiad ar y Safle
  • Rhwyddhau’r drefn o gyflogi prentisiaid drwy gyflwyno’r Tîm Cymorth i Gyflogwyr Newydd-ddyfodiaid
  • Parhau i fuddsoddi yn nhalent y dyfodol, gyda £63m arall ar gael eleni drwy’r Grantiau Presenoldeb a Chyflawni Prentisiaethau.

Creu llwybrau hyfforddiant wedi’u diffinio

Mae cael y safonau, y fframweithiau cymhwysedd a’r hyfforddiant cywir yn hanfodol er mwyn bodloni’r galw am sgiliau newydd.

Bydd CITB yn:

  • Gweithio gyda Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban i ddylanwadu ar brentisiaethau, gan gynnwys cefnogi’r gwaith o ddatblygu’r prentisiaethau gradd newydd yng Nghymru a chydweithio â Skills Development Scotland
  • Cynhyrchu naw llwybr cymwysterau a hyfforddiant sy’n cwmpasu’r crefftau â’r galw mwyaf amdanynt, er mwyn helpu i greu llwybrau cliriach a mwy hyblyg i’r diwydiant adeiladu
  • Mynd i’r afael â ffyrdd newydd o weithio drwy barhau i ymchwilio i ddulliau adeiladu modern a datblygu fframweithiau cymhwysedd i fodloni gofynion y Ddeddf Diogelwch Adeiladau.

Cyflenwi hyfforddiant yn effeithlon

Er mwyn gwella ansawdd y ddarpariaeth hyfforddiant sydd ar gael i gyflogwyr, y ffocws yw sicrhau bod y capasiti angenrheidiol ac ansawdd y cyflenwad hyfforddiant yn eu lle. Ochr yn ochr â hyn, bydd CITB yn parhau i ehangu ei grantiau a’i cyllid i helpu i gymell hyfforddiant.

Bydd CITB yn:

  • Buddsoddi dros £100m yn y cynllun grantiau dros y flwyddyn nesaf, gan gynnwys dyblu cyfraddau grant cyrsiau byr i rhwng £60 a £240. Mae hyn yn cefnogi cyflogwyr gyda chost hyfforddiant sgiliau craidd
  • Ehangu’r rhwydwaith o ddarparwyr hyfforddiant cydnabyddedig i sicrhau bod yr hyfforddiant sydd ei angen ar gyflogwyr i’w gweithlu ar gael yn y lle iawn ar yr adeg iawn
  • Buddsoddi bron i £30m yn y Coleg Adeiladu Cenedlaethol (NCC) i ddatblygu’r cyfleusterau ac ansawdd yr hyfforddiant, gan ganolbwyntio’r cwricwlwm ar alw na ddiwallwyd.
  • Parhau i fuddsoddi mewn hyfforddiant arwain a rheoli, gyda 10,000 o bobl yn barod i dderbyn hyfforddiant eleni

Dywedodd Tim Balcon, Prif Weithredwr CITB:

“Mae’n bleser gennyf gyflwyno ein Cynllun Busnes newydd heddiw. Mae’n ceisio rhoi cyflogwyr wrth y llyw drwy wneud i’r system sgiliau weithio’n fwy effeithlon iddyn nhw. Eleni, rydym yn canolbwyntio ar dair blaenoriaeth graidd, ac rydym wedi rhoi £19.8m yn fwy o fuddsoddiad i sicrhau bod y cynlluniau a’r cyllid cywir ar waith.

“Mae’r diwydiant adeiladu’n llawn cyfleoedd, ac mae’r rhagolygon o gynnydd a ragwelir yn 2024 yn gwneud i mi deimlo’n obeithiol dros ben. Rwy’n arbennig o falch o ddatgelu ein Cronfa Dylanwad ar y Diwydiant newydd, ochr yn ochr â’n Cynllun Busnes heddiw. Bydd y gronfa hon yn helpu cyflogwyr mewn sawl ffordd ond, yn y pen draw, bydd yn eu galluogi i gael mwy o lais ar hyfforddiant adeiladu.”