Ysbrydoli cenhedlaeth newydd o weithwyr tir
“Hyd yn oed a finnau’n 58 oed, rydw i’n dysgu technolegau newydd.” Dyma eiriau Hyfforddwr CITB a chyn-weithiwr tir, Tim Heads.
Daeth Tim, gŵr 58 oed o Bircham, yn weithiwr tir ar ôl gadael yr ysgol. Mae’n enghraifft dda o oedran, sgiliau ac amrywiaeth swyddi ym maes adeiladu.
Fel yr eglura Tim yn y sesiwn holi ac ateb isod, mae gan weithwyr tir swydd hanfodol. Fel arfer, nhw yw’r crefftwyr cyntaf ar safle adeiladu, gan osod allan a pharatoi arwynebau ar gyfer gwaith strwythurol.
Mae bod yn weithiwr tir yn gallu arwain at gyflog da ac, fel y mae Tim yn ei ddangos, at amrywiaeth o ddewisiadau swyddi. Gall gweithwyr tir sydd newydd gael eu hyfforddi ennill £17-£20,000 y flwyddyn; a gall uwch weithwyr tir ennill hyd at £25,000.
Yn y cyfamser, mae hyfforddi i fod yn diwtor adeiladu, fel Tim, yn daith sy’n rhoi boddhad hefyd. Fel yr ysgrifennodd Prif Weithredwr CITB, Tim Balcon, mewn blog diweddar, mae athrawon profiadol yn “rhan bwysig o’r system hyfforddi”.
Ar ddechrau Wythnos Gwerthfawrogi Gwaith Tir (27-31 Mawrth), ymgyrch recriwtio newydd gan AccXel, CITB a Go Construct, fe wnaethom holi Tim am ei yrfa a sut y daeth yn diwtor yn y Coleg Adeiladu Cenedlaethol.
Sut gwnaethoch chi ddechrau mewn gwaith tir?
Roedd fy nhad yn Adeiladwr Treftadaeth, ac yn ystod fy mlynyddoedd cynnar roeddwn i’n mynd gydag ef yn ystod gwyliau’r haf pan oedd yn gweithio’n lleol ar adeiladau hanesyddol, fel eglwysi, ac yn defnyddio dulliau traddodiadol.
Ar benwythnosau ac ar ôl ysgol, roedd fy mrawd a minnau yn arfer defnyddio ei offer i adeiladu berfa drol, sled a thŷ coeden. Pan adawais i’r ysgol, roedd yn naturiol i mi ei ddilyn i’r maes adeiladu, er ar lwybr gwahanol. Dysgais yn fuan fod fy mhrofiad ymarferol cynnar yn fantais enfawr.
Faint o amser mae’n ei gymryd i ddod yn weithiwr tir medrus?
Mae’n gallu amrywio’n fawr; dydw i ddim yn meddwl y gall unrhyw un feddu ar yr holl sgiliau ym mhob agwedd ar waith tir oherwydd bod y pwnc yn amrywiol. Hyd yn oed a finnau’n 58 oed, rydw i’n dysgu’n gyson wrth i dechnolegau, prosesau a deunyddiau newydd gael eu cyflwyno i’r diwydiant.
Er mwyn deall yr hanfodion gyda hyder, byddwn yn dweud ei bod yn cymryd rhwng 18 mis a dwy flynedd, yna mae angen rhagor o amser ar elfennau penodol fel gorffen concrid, palmantu modiwlaidd, draenio a gwaith pibellau, a chloddio dwfn.
Pa sgiliau fyddai o fudd i yrfa mewn gwaith tir?
Mae meddwl yn rhesymegol yn fuddiol gan fod y gwaith yn hyblyg. Mae angen i chi fod yn hyblyg wrth weithio o amgylch mathau eraill o grefftwyr a’r cyhoedd. Efallai y byddwch hefyd yn dod ar draws rhwystrau eraill wrth weithio, fel gwasanaethau wedi’u claddu a gwahanol fathau o amodau tir.
Bydd angen i chi feddu hefyd ar ddealltwriaeth dda o fathemateg (er, fel popeth arall, mae modd dysgu hyn) – bydd yn rhaid i chi gyfrifo’r deunyddiau sydd eu hangen ac efallai gosod allan ar gyfer sylfeini, llwybrau troed a draenio. Mae lefelu, gan ddefnyddio lefelau awtomatig a laserau sy’n cylchdroi, yn bwysig iawn hefyd oherwydd mae’n rhaid i gamau nesaf y broses adeiladu ffitio.
Gwaith tîm yw’r ffactor pwysicaf o bosibl; heb hyn, bydd y gwaith yn arafu, ni fydd yn cael ei gwblhau yn unol â’r fanyleb, neu bydd yn cael ei adeiladu’n anghywir gan arwain at fethiant.
Sut fath o ddatblygiad gyrfa sydd ar gyfer gweithiwr tir?
Mae rhywun yn dechrau fel prentis neu labrwr os nad oes modd cyflawni prentisiaeth. Yna, mae’n golygu adeiladu ar y sgiliau sy’n gallu arwain at fod yn weithiwr tir medrus. Gall hyn arwain at swydd Goruchwyliwr Gwaith Tir ac yna rôl Fforman Cyffredinol.
Does dim terfyn, mewn gwirionedd. Mae’n dibynnu ar rinweddau’r unigolyn, fel cymhelliant, uchelgais, ymroddiad, a gallu.
Pa yrfaoedd eraill allai ddeillio o ddechrau mewn gwaith tir?
Gallai arwain at weithgareddau arbenigol fel gorffen concrid, draenio dwfn, tirlunio caled (gosod cwrbin neu balmant). Efallai gwaith peiriannau, peiriant dadlwytho, cloddiwr 180°neu 360°, triniwr (wagen fforch godi) telesgopig, slingiwr-signalwr.
Gall gyrfa yn y maes arwain hefyd at swyddi Arolygu safleoedd a Rheoli Safleoedd.
Beth wnaeth i chi fod eisiau bod yn diwtor?
Cyn i mi ddechrau gyda CITB, roeddwn i’n gweithio i gwmni adeiladu a pheirianneg sifil mawr. Roedd y teithio cyson, a’r cyfarfodydd a’r trefnu gweithgareddau ar y safle chwe diwrnod yr wythnos yn gwneud i mi deimlo’n rhwystredig. Rydw i’n credu hefyd fy mod wedi colli’r hyn a oedd yn bwysig i mi. Roedd yr oriau roeddwn i’n eu treulio oddi cartref yn golygu bod fy mywyd preifat yn dioddef.
Yn ffodus, roedd y cwmni’n derbyn prentisiaid yn rheolaidd. Yn ystod amser cynnar y prentisiaid gyda’r cwmni, roedden nhw’n treulio amser gyda mi wrth iddyn nhw ddod i arfer â’r tasgau o ddydd i ddydd. Roeddwn i’n mwynhau rhyngweithio â nhw a bod yn rhan o’u cynnydd.
Pan ddaeth y gwaith tiwtora yn CITB, fe wnaeth ffrind ei argymell i mi. Ar ôl ei drafod gyda fy nghydweithwyr a hyd yn oed cyfarwyddwr rhanbarthol y cwmni, dywedodd pawb wrthyf i am fynd amdani gan ei fod yn cyd-fynd â’r sgiliau oedd gennyf a’m natur. Roeddwn i braidd yn bryderus wrth wneud cais, ond fe ges i’r swydd.
Rydw i mor falch fy mod wedi cymryd y cam hwn, gan ei fod yn cynnwys bron pob un rhan orau o’m swydd flaenorol, ond ychydig iawn o’r elfennau negyddol. Y fantais fwyaf yw gallu trosglwyddo fy ngwybodaeth a’m sgiliau i’r genhedlaeth nesaf a bod yn rhan o ddatblygu eu dealltwriaeth a’u sgiliau eu hunain.
Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i rywun sy’n ystyried gyrfa mewn gwaith tir?
Rhowch gynnig arni! Nid yw gweithio y tu allan yn addas i bawb, ond mae creu rhywbeth gyda’ch dwylo yn rhoi llawer o foddhad. Dydych chi ddim yn gwybod ydych chi’n addas ar gyfer swydd nes i chi roi cynnig arni.
Ydy Tim wedi’ch ysbrydoli? Dyma’r wybodaeth sydd ei hangen arnoch i fod yn Hyfforddwr CITB. I wneud cais am brentisiaeth gwaith tir yn y Coleg Adeiladu Cenedlaethol, cliciwch yma. Ar ein gwefan Go Construct, mae'r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch am sut i fod yn weithiwr tir.
Rhowch gynnig arni! Nid yw gweithio y tu allan yn addas i bawb, ond mae creu rhywbeth gyda’ch dwylo yn rhoi llawer o foddhad. Dydych chi ddim yn gwybod ydych chi’n addas ar gyfer swydd nes i chi roi cynnig arni.
Sut wnaethon ni heddiw? Rhoi adborth