Facebook Pixel
Skip to content

Adrodd ar Berfformiad

Trosolwg

Mae adroddiadau perfformiad CITB, sy’n cael eu cyhoeddi bob chwarter, yn anelu at roi trosolwg o ble mae Lefi’r diwydiant wedi’i buddsoddi a pha effaith y mae wedi’i chael, gan ganiatáu i chi olrhain ein cynnydd yn erbyn ein cynllun busnes. Er mai’r prif ddiben yw rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi, rydym hefyd yn gobeithio y bydd hyn yn eich helpu chi i’n helpu ni, pan fyddwch chi’n rhoi adborth ar sut a ble rydych chi’n meddwl y dylid buddsoddi Lefi’r diwydiant.

Chwarter 4: Ebrill 2023 i Fawrth 2024

Mae’r adroddiad perfformiad hwn yn olrhain ein cynnydd yn erbyn y targedau a nodir yn ein cynllun busnes, a sut rydym yn cefnogi’r diwydiant adeiladu i gael gweithlu medrus, cymwys a chynhwysol, nawr ac yn y dyfodol.

Ein rôl yw:

  • Hysbysu a galluogi’r bobl iawn i mewn i adeiladu
  • Datblygu system hyfforddiant a sgiliau i ddiwallu anghenion y presennol a’r dyfodol
  • Cefnogi’r diwydiant i hyfforddi a datblygu ei weithlu

Darllenwch yr adroddiad llawn:

Rhai uchafbwyntiau o’r chwarter hwn yw:

Nod: Cynnydd o 4% yn nifer y bobl sy’n cyrchu cymorth gyrfaoedd CITB

Cynnydd: uwchlaw’r targed ar 12%

Cynyddodd ymwelwyr safle Am Adeiladu 12% gyda nifer y cliciau allan i fyny 75%, ymwelwyr â thudalennau prentisiaeth i fyny 324% a chlicio drwodd i TalentView Construction, cartref swyddi gweigion y diwydiant adeiladu i fyny 158%.

Mae’r cynnydd yn nifer yr ymwelwyr ag Am Adeiladu yn dangos bod gan fwy o bobl awydd i ddeall mwy am y diwydiant a’u bod yn ystyried mynd i mewn i’r diwydiant adeiladu. Mae SkillBuild, y gystadleuaeth sgiliau aml-grefft fwyaf yn y DU, wedi gweld 584 o brentisiaid yn ymgeisio i gymryd rhan o gymharu â 450 y llynedd, a 4% yn fwy o ymgeiswyr o gefndiroedd amrywiol.

Nod: Cynnydd o 5% yn y cymorth hyfforddiant CITB y mae cyflogwyr yn ei ddefnyddio

Cynnydd: uwchlaw’r targed ar 12%

Rydym yn gweld cynnydd yn nifer y cyflogwyr a gefnogir gan grant, cyllid, CDC, Grwpiau Hyfforddi a'r Rhwydwaith Cyflogwyr. Mae hyn yn dangos bod cyflogwyr yn parhau i gynyddu buddsoddiad mewn hyfforddiant. Trwy’r Rhwydwaith Cyflogwyr, gwelsom 783 o gyflogwyr yn cael eu cefnogi o gymharu â 246 (rhan o’r flwyddyn Awst 2023 i Fawrth 2024) y llynedd, a chyfanswm o 1,029.

Nod: Cynnydd o 7% yn nifer yr unigolion sy’n cael eu cefnogi i gyflogaeth ar ôl AB

Cynnydd: uwchlaw’r targed ar 20%

Cefnogodd ein grantiau prentisiaeth 29,428 o brentisiaid, o gymharu â 26,200 yr adeg hon y llynedd. At hynny, mae gwariant cyflawniad grant prentisiaeth 15% yn uwch na'r gyllideb.

Helpodd ein Tîm Cymorth i Newydd-ddyfodiaid (NEST) a ehangwyd yn ddiweddar dros 2,340 o bobl i ddechrau prentisiaeth o gymharu â 386 y llynedd. Mae'r cynnydd mewn cychwyniadau yn arwydd bod gan newydd-ddyfodiaid fynediad at sgiliau a chyfleoedd tymor hwy a fydd yn gwella eu dealltwriaeth o'r diwydiant adeiladu ac yn gwella eu cyflogadwyedd. Mae'r newydd-ddyfodiaid hyn hefyd yn cael eu cefnogi i helpu i lenwi bylchau a phrinder sgiliau yn y diwydiant.

Sut wnaethon ni heddiw? Rhoi adborth