Facebook Pixel
Skip to content

Rhagolygon sgiliau adeiladu newydd yn adlewyrchu amseroedd cythryblus

Roedd 2022 yn flwyddyn anodd.

Gellid dadlau mai goresgyniad Wcráin gan Rwsia oedd y gwrthdaro mwyaf ers yr Ail Ryfel Byd.

Yn y cyfamser - gartref - gwelwyd cynnydd mewn chwyddiant, cyfraddau llog, ac argyfwng costau byw.

Mae’r newidiadau yma, ac ar draws y byd, wedi effeithio ar lawer o ddiwydiannau, gan gynnwys y diwydiant adeiladu, un o brif sbardunau twf y Deyrnas Unedig.

Mae’r cyfnod cythryblus hwn yn cael ei adlewyrchu yn ein hadroddiad Rhwydwaith Sgiliau Adeiladu (CSN) newydd.

Dim ond saith mis yn ôl, yn ein CSN blaenorol, roeddem wedi amcangyfrif bod angen 53,200 o weithwyr adeiladu ychwanegol, y flwyddyn, i ddiwallu’r galw yn y maes adeiladu rhwng 2022 a 2026.

Y ffigur cyfatebol ar gyfer 2023-27 yw 44,980.

Yn y cyfamser, roedd y twf a ragwelwyd ar gyfer 2022-26 yn 3.2%.

Rhagwelir mai dim ond 1.5% fydd y twf ar gyfer 2023-27.

Mae’r darlun economaidd tymor byr yn un anodd. Fodd bynnag, rwy’n falch o nodi bod y rhagolygon tymor hir yn fwy disglair.

Allbwn

Roedd busnesau adeiladu wedi wynebu nifer o heriau yn 2022, gan gynnwys chwyddiant prisiau deunyddiau crai, chwyddiant cyflogau ac anhawster dod o hyd i weithwyr medrus.

Er gwaethaf y rhwystrau hyn, roedd yr allbwn adeiladu’n well na’r disgwyl; mae’r twf blynyddol wedi bod tua 4%.

Fodd bynnag, gan y bydd y Deyrnas Unedig yn wynebu cyfnod o ddirwasgiad a’r Cynnyrch Domestig Gros (GDP) yn gostwng yn 2023, mae’n annhebygol y bydd y gwaith adeiladu’n parhau i wneud yn well na’r economi.

Bydd y 18 mis nesaf yn anodd i lawer o bobl yn y Deyrnas Unedig, does dim dianc rhag hynny.

Mae’r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd wedi rhagweld y bydd yr argyfwng ynni byd-eang, sy’n cael ei ddwysáu gan ymosodiad Rwsia ar Wcráin, yn golygu bod ein heconomi yn crebachu mwy nag unrhyw wlad arall yn y G7.

Yn ffodus, mae’r dirwasgiad disgwyliedig yn debygol o fod yn fwy bas o ran y dirywiad mewn cynnyrch domestig gros a welwyd yn y dirwasgiad yn 2008 ac yn 2020.

Rhagwelir y bydd yr allbwn yn tyfu eto yn 2024.

O blith y gwledydd a’r rhanbarthau, bydd Swydd Efrog a Humber (2.2%), Dwyrain Lloegr (2.2%) a Llundain Fwyaf (1.9%) yn arwain y ffordd o ran twf adeiladu.

Recriwtio

Gellid dadlau mai’r her fwyaf sy’n wynebu’r diwydiant adeiladu rhwng 2023 a 2027 yw recriwtio gweithwyr.

Mae hyn oherwydd nifer fawr o swyddi gwag a diweithdra isel.

Mae’r nifer fawr o swyddi gwag yn golygu ei bod yn bwysig i gwmnïau adeiladu ddefnyddio’r cymorth recriwtio sydd ar gael iddyn nhw.

Bydd datblygu’r gweithlu yn helpu’r diwydiant adeiladu i gyfrannu at gyfleoedd twf.

Mae hyn yn golygu adeiladu’r cartrefi sydd eu hangen ar y wlad, gweithio ar seilwaith trafnidiaeth ac ynni ac ôl-osod yr amgylchedd adeiledig er mwyn cyrraedd targedau sero net.

Mae ein hadroddiad CSN newydd yn rhagweld y bydd y galw mwyaf am benseiri, peirianwyr sifil a gweithredwyr peiriannau masnach yn y diwydiant adeiladu rhwng 2023 a 2027, a bydd pob un o'r swyddi hyn yn gweld twf blynyddol cyfartalog dros 1%.

Buddsoddi

Bydd CITB yn gwneud popeth o fewn ei allu i gefnogi anghenion sgiliau a hyfforddiant y diwydiant yn ystod y cyfnod anodd hwn.

Mae ein Cynllun Busnes diweddaraf a gyhoeddwyd ym mis Mai, yn adlewyrchu anghenion cyflogwyr ac yn amlinellu’r buddsoddiad a’r cymorth gwerth £233m ar gyfer sgiliau rydyn ni’n ei ddarparu i’r diwydiant yn 2022-23.

Rydyn ni wedi cyflwyno amrywiaeth o fentrau pwysig ers ei gyhoeddi.

Ym mis Awst, fe wnaethom gyhoeddi buddsoddiad o £800,000 mewn prosiect Peilot Rhwydwaith Cyflogwyr newydd a allai chwyldroi’r ffordd y mae’r diwydiant yn cael cyllid ar gyfer hyfforddiant.

Ym mis Hydref, fe wnaethom adnewyddu’r cyllid (£780,000), ar gyfer y prosiect Hyb Profiad ar y Safle yng Nghymru.

Ym mis Rhagfyr, dyfarnodd CITB gontractau gwerth £10.5m, i bedwar sefydliad hyfforddi er mwyn iddyn nhw allu darparu 10,500 o gyrsiau’r Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth ar gyfer diwydiant, am ddim.

Yn y dyfodol, bydd CITB yn cyflwyno tasglu prentisiaethau ledled Lloegr, tîm a fydd yn gweithio gyda chyflogwyr ar eu hanghenion prentisiaeth.

Bydd ein Cronfa Effaith ar y Diwydiant newydd, a fydd yn cael ei lansio yn y gwanwyn, yn chwilio am atebion gan fusnesau ar sut mae cefnogi cynhyrchiant ac amrywiaeth yn y maes adeiladu.

Balchder

Fodd bynnag, fydd y 18 mis nesaf ddim yn hawdd. Rwy’n dal i gael fy ysbrydoli gan wytnwch y diwydiant adeiladu, a welwyd yn ystod y pandemig a drwy gydol y cyfnod anodd yn 2022.

Rwy’n ymfalchïo yn narlun tymor hir CSN ac rwy’n hyderus y bydd yr amrywiaeth o fentrau a gyflwynwyd gan CITB yn ystod y 12 mis diwethaf yn helpu cyflogwyr a newydd-ddyfodiaid ledled y Deyrnas Unedig.

Bydd CITB yn ymdrechu i ddenu a hyfforddi amrywiaeth eang o recriwtiaid i’r diwydiant.

Byddwn yn rhoi sgiliau modern iddyn nhw ar gyfer gyrfaoedd adeiladu gwerth chweil.

Edrychaf ymlaen at weithio gyda rhanddeiliaid yn y cyfnod heriol sydd o’n blaenau ac at ddod allan yn gryfach yn y pen draw, pan ddaw’r dirwasgiad i ben.

Tim Balcon
Prif Weithredwr CITB
Ionawr 2023