Facebook Pixel
Skip to content

Ymdrin â sefyllfaoedd anodd

We have doubled the grant rates for short course tiers 1 – 3. To address rising costs, you can now receive higher rates on course achievements from 1st April 2023

Grant Tier

Achievement date before 1 April 2023

Achievement date on or after 1 April 2023

Grant Tier 1

Grant Tier 1 Refresher

£30

£15

£60

£30

Grant Tier 2

Grant Tier 2 Refresher

£70

£35

£140

£70

Grant Tier 3

Grant Tier 3 Refresher

£120

£60

£240

£120

Ymdrin â sefyllfaoedd anodd

Pwrpas y safon hon yw galluogi'r cynrichiolydd i ddatblygu gwybodaeth a dealltwriaeth ynghylch ymdrin â sefyllfaoedd anodd o ran perfformiad, disgyblaeth, gwrthdaro, straen ac amrywiaeth fel sy'n ofynnol gan oruchwyliwr safle neu ddarpar oruchwyliwr safle.

Hyd

14 awr o ddysgu dan arweiniad

Diben / sgôp

Pwrpas y safon hon yw galluogi'r cynrichiolydd i ddatblygu gwybodaeth a dealltwriaeth ynghylch ymdrin â sefyllfaoedd anodd o ran perfformiad, disgyblaeth, gwrthdaro, straen ac amrywiaeth fel sy'n ofynnol gan oruchwyliwr safle neu ddarpar oruchwyliwr safle.

Sgôp

  • defnyddio asesiad, gwrando gweithredol ac adborth i reoli perfformiad aelodau tîm ar y safle
  • rheoli perfformiad gwael a disgyblu aelodau tîm ar y safle
  • rheoli gwrthdaro ar y safle
  • dynodi a rheoli straen sy'n gysylltiedig â gwaith
  • rheoli gweithlu amrywiol

Perthnasedd galwedigaethol

Byddai hyfforddiant a ddarperir yn erbyn y safon hon yn berthnasol i'r grwpiau galwedigaethol canlynol: goruchwylio, rheoli ac arwain.

Rhagofynion Cynrychiolwyr

Nid oes unrhyw ragofynion cynrychiolwyr fel rhan o'r safon hon.

Cyfarwyddyd/goruchwyliaeth

Fel isafswm, rhaid i hyfforddwyr cwrs allu dangos, mewn perthynas â’r safon hon, bod:

  • ganddynt ddyfarniad mewn addysg a hyfforddiant (neu gyfwerth, yn unol â gofynion sefydliadau hyfforddi cymeradwy)
  • wedi cwblhau hyfforddiant i’r safon hon yn llwyddiannus (o fewn y 3 blynedd diwethaf)
  • o leiaf 3 blynedd o brofiad diwydiannol perthnasol
  • CV gwiriadwy
  • gwybodaeth am brosesau dysgu ac asesu ILM VRQ (dewisol)

Darpariaeth

Gall darpariaeth fod mewn amgylchedd gwaith neu i ffwrdd o'r gwaith.

Rhaid i'r holl ddeunyddiau ac offer fod o ansawdd a maint addas er mwyn i gynrychiolwyr gyflawni canlyniadau dysgu a rhaid iddynt gydymffurfio â deddfwriaeth berthnasol.

Rhaid i faint y dosbarth a'r gymhareb cynrychiolwyr/hyfforddwr ganiatáu i hyfforddiant gael ei gyflwyno mewn modd diogel a galluogi'r cynrychiolwyr i gyflawni'r canlyniadau dysgu. Ni ddylai nifer y cynrychiolwyr fod yn fwy nag 20 fesul hyfforddwr.

Gellir defnyddio'r dulliau dosbarthu canlynol wrth gyflawni'r safon hon: wyneb yn wyneb; rhithiol.

Ystyrir bod y safon hon yn cynnwys 51% neu fwy o ddysgu damcaniaethol.

Ystyrir bod y safon hon wedi'i gosod ar lefel ganolradd.

Asesiad

Er mwyn cwblhau hyfforddiant yn llwyddiannus, rhaid i gynrychiolwyr gwblhau asesiad diwedd cwrs sy'n mesur yr holl ddeilliannau dysgu ac yn bodloni'r meini prawf llwyddo ar gyfer pob un.

Y dull asesu ffurfiol a ystyrir yn briodol ar gyfer hyfforddiant a gyflwynir yn erbyn y safon hon yw trwy bapur o 19 cwestiwn yn seiliedig ar un cwestiwn fesul pwynt meini prawf asesu o fewn y deilliannau dysgu gyda chronfa o 2 set o bapurau cwestiwn. Rhaid i gynrychiolwyr gael 75% o atebion cywir i lwyddo. Er mwyn osgoi unrhyw amheuaeth, rhaid cael atebion enghreifftiol er mwyn sicrhau cysondeb.

Sicrwydd Ansawdd

Sicr

Er mwyn sicrhau sicrwydd ansawdd yn erbyn y safon hon, bydd angen cymeradwyaeth gychwynnol gan y sefydliad hyfforddi a bydd eu cynnwys wedi'i fapio i'r safon.

Bydd CITB hefyd yn cynnal ymyriad cymeradwyo, naill ai ymweliad desg neu ganolfan, i sicrhau y gall y sefydliad hyfforddi fodloni gofynion y safon hyfforddi.

Bydd yn ofynnol i sefydliadau hyfforddi cymeradwy (ATOs) gyflwyno gwybodaeth am gofnodion hyfforddi ac asesu ar gais i CITB i'w dadansoddi wrth ddesg. Bydd tîm sicrwydd ansawdd CITB hefyd yn ymweld â nhw bob blwyddyn.

Adnewyddu

Nid oes unrhyw ofynion adnewyddu gorfodol na gofynion gloywi a argymhellir ar gyfer y safon hon.

Dosbarthiad

Oes (Sylwer mai dim ond unwaith fesul cynrychiolydd y bydd safonau sy'n defnyddio'r dosbarthiad hwn yn cael cymorth grant)

Dyddiad Cymeradwyo

Mai 2022

Cylch adolygu

Ar gais neu 5 mlynedd ar ôl y dyddiad cymeradwyo.

Canlyniadau dysg

Bydd y cynrychiolydd yn gallu:

  • egluro sut i ddefnyddio asesiad a gwrando gweithredol ac rhoi adborth i reoli perfformiad aelodau tîm ar y safle
    • Rhaid i asesiad o’r deilliant dysgu hwn gwmpasu gallu’r cynrychiolwyr i:
      • egluro arferion rheoli perfformiad a rôl y goruchwyliwr mewn rheoli perfformiad
      • disgrifio gwerth asesiad ffurfiol ac anffurfiol o berfformiad ar y safle
      • disgrifio o leiaf ddwy ffordd o sicrhau asesiad ffurfiol teg a gwrthrychol
      • egluro technegau gwrando gweithredol a rhoi adborth a phwysigrwydd hyn wrth wella perfformiad
      • egluro sut i roi adborth effeithiol perfformiad

  • egluro sut i reoli perfformiad gwael a disgyblu aelodau tîm ar y safle
    • Rhaid i asesiad o’r deilliant dysgu hwn gwmpasu gallu’r cynrychiolwyr i:
      • egluro pam ei bod yn bwysig dynodi achos sylfaenol perfformiad gwael yn gywir os yw am gael ei reoli'n briodol
      • egluro'r gwahaniaeth rhwng gweithdrefnau disgyblu a gweithdrefnau ar gyfer ymdrin â pherfformiad gwael
      • dynodi polisïau a gweithdrefnau cyflogaeth y sefydliad sy’n cefnogi’r goruchwyliwr wrth ymdrin â materion disgyblu
      • disgrifio ar ba bwynt yng ngweithdrefnau’r sefydliad y dylai’r goruchwyliwr ofyn am gymorth gan ei reolwr llinell neu adnoddau dynol wrth ymdrin â rheoli perfformiad gwael
      • egluro sut y dylai goruchwyliwr baratoi ar gyfer cyfarfod ynghylch perfformiad gwael tebygol

  • egluro sut i reoli gwrthdaro ar y safle
    • Rhaid i asesiad o’r deilliant dysgu hwn gwmpasu gallu’r cynrychiolwyr i:
      • disgrifio prif nodweddion gwrthdaro a sut y gall gwrthdaro effeithio ar berfformiad unigolion a pherffromiad tîm ar y safle
      • egluro un dechneg gydnabyddedig y gall goruchwyliwr ei defnyddio i ddatrys gwrthdaro
      • egluro sut y gall goruchwyliwr hybu awyrgylch cadarnhaol er mwyn lleihau effeithiau andwyol gwrthdaro

  • egluro sut i ddynodi a rheoli straen sy'n gysylltiedig â gwaith
    • Rhaid i asesiad o’r deilliant dysgu hwn gwmpasu gallu’r cynrychiolwyr i:
      • egluro beth a olygir gan straen sy'n gysylltiedig â gwaith
      • egluro sut mae straen sy'n gysylltiedig â gwaith yn datblygu
      • egluro cyfrifoldebau'r goruchwyliwr o ran sicrhau bod risgiau straen sy'n gysylltiedig â gwaith yn cael eu rheoli’n effeithiol

  • egluro sut i reoli gweithlu amrywiol
    • Rhaid i asesiad o’r deilliant dysgu hwn gwmpasu gallu’r cynrychiolwyr i:
      • egluro o leiaf ddwy fantais o amgylchedd gwaith cynhwysol i'r sefydliad
      • disgrifio rôl a chyfrifoldebau goruchwyliwr wrth hybu cydraddoldeb ac amrywiaeth
      • darparu enghraifft o ymddygiad amhriodol mewn perthynas â chydraddoldeb ac amrywiaeth ac egluro sut y dylai goruchwyliwr fynd i'r afael ag ef

Gwybodaeth ychwanegol am y safon hon

Mae'r safon hyfforddi hon yn deillio o Lefel 3 ILM mewn Arfer Arwain a Rheoli ar gyfer y Sector Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig, uned 8626-303 Ymdrin â Sefyllfaoedd Anodd.