Canlyniadau Chwilio
Chwilio am newyddion a digwyddiadau
Math
Newyddion lleol a digwyddiadau
Canfuwyd 17 o erthyglau
Defnyddiwch yr hidlwyr chwilio ar yr ochr dde i leihau’r canlyniadau.
Cliciwch yma i ddychwelyd i'r dudalen penawdau newyddion.
CITB yn nodi dyddiadau allweddol ar gyfer Ymgynghoriad Consensws ar Lefi 2026-29
Mae Bwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu (CITB) wedi cyhoeddi heddiw y bydd ei ymgynghoriad â’r diwydiant adeiladu ar opsiynau Cynigion Lefi ar gyfer 2026-29 cyn Consensws y flwyddyn nesaf yn rhedeg o 26 Medi tan 24 Hydref.
CITB yn ymuno â Build UK ac arbenigwyr y diwydiant tân
Mae eGwrs newydd rhad ac am ddim wedi’i ddatblygu mewn partneriaeth â Build UK ac arbenigwyr y diwydiant tân, â’r nod o wella gwybodaeth y sector am fesurau diogelwch tân mewn adeiladau. Yn dilyn trasiedi Tŵr Grenfell yn 2017 a’r ymchwiliad dilynol, mae’r diwydiant wedi gweithio’n galed i godi safonau diogelwch ac atal digwyddiad o’r fath rhag digwydd eto. Mae eGwrs Diogelwch Tân mewn Adeiladau CITB wedi’i greu fel ymateb uniongyrchol i argymhellion a wnaed gan Weithgor 2 (WG2), a ddyfeisiwyd i gefnogi’r ymchwiliad, fel yr amlinellwyd yn adroddiad Setting the Bar.
Porth lles a llesiant y gweithlu am ddim i bawb ym maes adeiladu
Mae Elusen y Diwydiant Adeiladu Lighthouse wedi partneru â CITB a’r Samariaid i greu offeryn cymorth lles, fel rhan o fenter y diwydiant cyfan Make It Visible. Nod Make It Visible yw gwneud cymorth lles a llesiant yn weladwy ar bob safle adeiladu, gan helpu i leihau’r stigma sy’n gysylltiedig â’r pwnc a chynyddu ymwybyddiaeth o’r llwybrau cymorth sydd ar gael. Ar ôl sicrhau dro £400,000 o gyllid gan CITB, crëwyd porth gwefan rhad ac am ddim yn gynharach eleni i gefnogi’r fenter.
Cylchlythyr CITB Cymru: Atgyfnerthu ein hymrwymiad i’r Gymraeg
Croeso i ddiweddariad chwarterol CITB Cymru. Dyma newyddion am ein gwaith a fydd yn eich helpu i gael y gorau o’n gwasanaethau ledled Cymru.
Digwyddiadau Menywod mewn Adeiladu yn denu mwy na 250 o ferched ysgol ledled Cymru
Mae CITB yn dangos ei ymrwymiad i gynwysoldeb ac amrywiaeth gyda chyfres o ddigwyddiadau i ddenu mwy o fenywod i fyd adeiladu.
Cymraeg yn CITB
Ar Ddydd Gŵyl Dewi eleni, rydym yn tynnu sylw at ymrwymiad CITB i gefnogi’r iaith Gymraeg.
Cylchlythyr CITB Cymru: Cynnydd o 83% mewn cyllid sgiliau a hyfforddiant
Croeso i ddiweddariad chwarterol CITB Cymru. Dyma newyddion am ein gwaith a fydd yn eich helpu i gael y gorau o’n gwasanaethau ledled Cymru.
Mae angen 9,100 o weithwyr adeiladu ychwanegol yng Nghymru erbyn 2027
Yn erbyn cefndir o her economaidd, costau deunyddiau a llafur cynyddol, mae ffigurau newydd gan Fwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu (CITB) yn datgelu y bydd angen 9,100 o weithwyr ychwanegol i fodloni’r galw adeiladu yng Nghymru erbyn 2027.
Diweddariad ar newidiadau i Safonau a Grantiau Peiriannau CITB
Mae CITB wedi cyhoeddi diweddariad i newidiadau arfaethedig i safonau a grantiau peiriannau i safoni gofynion hyfforddi a phrofi ar draws y diwydiant adeiladu. Gwnaed cynnydd rhagorol ac rydym yn falch o gadarnhau bod y set gyntaf o safonau newydd yn barod ac wedi'u datblygu ar y cyd â gweithgorau'r diwydiant sy'n cynnwys cyflogwyr, darparwyr a ffederasiynau. Gan fod y safonau newydd hyn yn fanylach nag unrhyw safon mae CITB wedi'u cynhyrchu o'r blaen ac yn cynrychioli newid gwirioneddol yn y ffordd y caiff hyfforddiant a phrofi peiriannau ei ddarparu, mae angen i ni sicrhau bod y newidiadau y mae'r diwydiant wedi gofyn amdanynt yn cael eu cyflawni'n iawn.
Ymateb i anghenion diogelwch tân y diwydiant
Mae un gair yn esbonio pam mae sgiliau diogelwch tân modern yn fwy hanfodol nag erioed i bob gweithiwr adeiladu yn y DU: Grenfell. Ar 14 Mehefin 2017, dechreuodd tân ym mloc o fflatiau 24-llawr Tŵr Grenfell yng ngorllewin Llundain. Collodd saith deg dau o bobl eu bywydau yn y trychineb. Fis ar ôl y drasiedi cafodd adolygiad i ddiogelwch tân, dan arweiniad y Fonesig Judith Hackitt, ei gomisiynu. Yn rhagair adroddiad interim yr adolygiad, Adeiladu Dyfodol Mwy Diogel, ysgrifennodd y Fonesig Judith: “Rhaid rhoi’r gorau i’r meddylfryd o wneud pethau mor rhad â phosib a throsglwyddo cyfrifoldeb am broblemau a diffygion i eraill.”