Adrodd ar Berfformiad
Trosolwg
Mae adroddiadau perfformiad y CITB, sy’n cael eu cyhoeddi bob chwarter, yn ceisio rhoi trosolwg o sut mae Lefi'r diwydiant yn cael ei fuddsoddi a pha effaith mae wedi’i gael, gan roi cyfle i chi olrhain ein cynnydd yn erbyn ein cynllun busnes. Er mai’r prif bwrpas yw rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi, rydyn ni hefyd yn gobeithio y bydd hyn yn eich helpu chi i’n helpu ni, pan fyddwch chi’n rhoi adborth ar sut a ble rydych chi’n meddwl y dylid buddsoddi Lefi’r diwydiant.
Chwarter 3: Hydref i Ragfyr 2022
Mae’r adroddiad perfformiad hwn yn olrhain ein cynnydd yn erbyn y targedau a nodir yn ein cynllun busnes 2022-23, a sut rydym yn cefnogi’r diwydiant adeiladu i gael gweithlu medrus, cymwys a chynhwysol, nawr ac yn y dyfodol.
Ein rôl yw:
- Rhoi gwybodaeth i’r bobl iawn a’u galluogi i ddechrau arni yn y diwydiant adeiladu
- Datblygu system hyfforddi a sgiliau i ddiwallu anghenion y presennol a’r dyfodol
- Cefnogi’r diwydiant i hyfforddi a datblygu ei weithlu
Darllenwch yr adroddiad llawn:
Dyma rai o uchafbwyntiau’r chwarter hwn:

Nod: 4,600 o gyfleoedd blasu ar gael
Cynnydd: Uwch na’r targed ar 11,020
Gall ein rhaglen sesiynau blasu gwaith, sy’n rhoi syniad ymarferol o sut beth yw gweithio ym maes adeiladu, wneud byd o wahaniaeth wrth annog pobl sy’n newid gyrfa i ymuno â’r diwydiant.
Rydym yn falch iawn â’r ymatebion a’r ymgysylltu rhagorol gan gyflogwyr ac ymgeiswyr yn y rhaglen blas ar waith. Rydym wedi rhagori ar y targed diwedd blwyddyn, gyda bron i 10,000 o sesiynau blasu wedi cael eu cyflwyno yn y tri mis diwethaf yn unig.

Nod: Cynnydd o 3% yn nifer y cyflogwyr sy’n cael cymorth hyfforddiant CITB
Cynnydd: uwch na’r targed ar 13%
Rydym yn rhagori ar ein targed diwedd blwyddyn wrth i fwy o gyflogwyr fanteisio ar gymorth hyfforddi helaeth CITB. Rydym wedi cefnogi dros 700 o gyflogwyr ychwanegol o gymharu â’r llynedd, gyda dros £59m wedi’i fuddsoddi mewn grantiau. Mae dros 1,500 o gyflogwyr micro a bach wedi derbyn bron i £8m o’n cronfa Sgiliau a Hyfforddiant, cynnydd blynyddol o 40%.
Mae ein cynllun grant cyrsiau byr wedi cefnogi dros 6,600 o fusnesau, busnesau bach a chanolig yn bennaf, gyda’u gofynion hyfforddiant craidd. Gyda nifer y prentisiaid a gefnogir gan gyllid CITB wedi cynyddu 15%, ynghyd â naid o 10% yn nifer y cyflogwyr sy’n cael mynediad at ein grantiau, mae’r awydd am brentisiaethau yn parhau’n gryf.

Nod: Cynnydd o 3% yn nifer yr unigolion sy’n cael eu hyfforddi neu eu cefnogi
Cynnydd: uwch na’r targed ar 6%
Mae nifer yr unigolion sy’n cael eu hyfforddi neu eu cefnogi wedi parhau i dyfu, ac rydym ar y trywydd iawn i ragori ar y targed diwedd blwyddyn erbyn hyn.
Diolch i fuddsoddiadau sylweddol yn ein safleoedd NCC, rydym wedi hyfforddi dros 7,300 o ddysgwyr yn uniongyrchol, cynnydd o 36%. Mae nifer y cyflogwyr sy'n cael mynediad i hyfforddiant yn y colegau hefyd wedi cynyddu 35% i dros 3,200. Yn y cyfamser, cyflwynodd yr NSAC dros 700 o gymwysterau mewn meysydd arbenigol iawn.
Helpodd Rhwydwaith y Cyflogwyr, sy'n symleiddio cyllid a chymorth i gyflogwyr, bron i 2,000 o ddysgwyr i gael mynediad at hyfforddiant lleol.
Darllenwch adroddiadau perfformiad blaenorol:
- Adroddiad perfformiad - Chwarter 3 2022-23 (PDF, 1.72MB)
- Adroddiad perfformiad - mis Mai 2022 (PDF, 261KB)
- Adroddiad perfformiad - Chwefror 2022 (PDF, 441KB)
- Adroddiad Perfformiad - Chwefror 2021
- Adroddiad Perfformiad - Tachwedd 2021
- Adroddiad Perfformiad - Awst 2021
- Adroddiad Perfformiad- 2020-21, PDF (183KB)
- Adroddiad Perfformiad - Ionawr 2021, PDF (217KB)
- Adroddiad Perfformiad- Tachwedd 2020, PDF (181KB)